Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i sicrhau fod gan y diwydiant adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen i ofalu a chynnal ein hen adeiladau, gallwn gynnig cyrsiau sgiliau adeiladu traddodiadol i chi.
Mae’r cyrsiau sydd ar gael yn rhad ac am ddim a byddant yn cael eu cynnal yn safle Ffordd y Bers Coleg Cambria.
Os nad oes gennych amser ym mis Tachwedd, byddwn yn cynnal cyrsiau eraill ym mis Rhagfyr, felly edrychwch am ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn fuan.
Gweler isod y cyfleoedd ar eich cyfer chi a’ch gweithlu ym mis Tachwedd:
Dyfarniad Lefel 3 – Atgyweirio a Chynnal a Chadw adeiladau (Cyn 1919): 4 ac 5 Tachwedd 2021
Mae’r cwrs achrededig deuddydd hwn yn darparu cymysgedd cytbwys o gynnwys ymarferol a theoretig sy’n amlygu pwysigrwydd gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw addas ar gyfer adeiladau hanesyddol.
Plastro calch a gwaith plastro Addurnol: 11 Tachwedd 2021
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â rendradau allanol; plasteri mewnol; plethwaith a dwb; a rhoi enghreifftiau o wahanol Gymysgeddau.
Cwrs pren strwythurol ac anstrwythurol: 12 Tachwedd 2021
Mae’r cwrs hwn yn rhoi crynodeb o sut i nodi’r gwahaniaeth rhwng pren Strwythurol ac Anstrwythurol, cydrannau adeiladu, yr hyn y gallech ddod o hyd iddo, diffygion cyffredin gyda phren ac atgyweirio a chynnal a chadw pren.
Prisio cadwraeth: 15 Tachwedd 2021
Rhoi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut i gyfrifo costau wrth gynhyrchu dyfynbrisiau / tendrau ar gyfer gwaith ar Adeiladau Traddodiadol (CYN 1919).
Morterau calch cymysgedd poeth – Uwch: 18 Tachwedd 2021
Mae’r cwrs hwn yn darparu crynodeb o gyfyngiadau calch, ei gryfderau, arfer orau, ychwanegu ychwanegion fel blew ceffyl, pozzolans, ac archwilio eu defnydd ac atgyweirio manylion.
Cwrs Gwaith Metel: 19 Tachwedd 2021
Bydd y cwrs gwaith metel yn ymdrin â gwneuthuriad ac atgyweirio gwaith metel sy’n bodoli eisoes. Gosod ar garreg neu is-ffram fetel i mewn i bren, trwsio ffenestri cast, peintio gwaith metel, ailosod gwydr mewn fframiau metel, gwaith haearn newydd, cael gwared â throellau ac anwastadrwydd, a gwaith selio gyda phwti.
Dyfarniad Achrededig Lefel 3 mewn Ynni ac effeithlonrwydd: 25 a 26 Tachwedd 2021
Dyluniwyd y cwrs achrededig deuddydd hwn i godi ymwybyddiaeth o effeithlonrwydd ynni eiddo cyn 1919.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyrsiau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â TBS@Wrecsam.gov.uk
Darperir y cyrsiau’n rhad ac am ddim drwy Raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian gan Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.