Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofrestrwch rŵan ar gyfer cyrsiau sgiliau adeiladu traddodiadol sydd ar gael ym mis Tachwedd.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cofrestrwch rŵan ar gyfer cyrsiau sgiliau adeiladu traddodiadol sydd ar gael ym mis Tachwedd.
Busnes ac addysgY cyngor

Cofrestrwch rŵan ar gyfer cyrsiau sgiliau adeiladu traddodiadol sydd ar gael ym mis Tachwedd.

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 22, 2021 10:26 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Traditional Building Skills
RHANNU

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i sicrhau fod gan y diwydiant adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen i ofalu a chynnal ein hen adeiladau, gallwn gynnig cyrsiau sgiliau adeiladu traddodiadol i chi.

Cynnwys
  • Dyfarniad Lefel 3 – Atgyweirio a Chynnal a Chadw adeiladau (Cyn 1919): 4 ac 5 Tachwedd 2021
  • Plastro calch a gwaith plastro Addurnol: 11 Tachwedd 2021
  • Cwrs pren strwythurol ac anstrwythurol: 12 Tachwedd 2021
  • Prisio cadwraeth: 15 Tachwedd 2021
  • Morterau calch cymysgedd poeth – Uwch: 18 Tachwedd 2021
  • Cwrs Gwaith Metel: 19 Tachwedd 2021
  • Dyfarniad Achrededig Lefel 3 mewn Ynni ac effeithlonrwydd: 25 a 26 Tachwedd 2021

Mae’r cyrsiau sydd ar gael yn rhad ac am ddim a byddant yn cael eu cynnal yn safle Ffordd y Bers Coleg Cambria.

Os nad oes gennych amser ym mis Tachwedd, byddwn yn cynnal cyrsiau eraill ym mis Rhagfyr, felly edrychwch am ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn fuan.

Gweler isod y cyfleoedd ar eich cyfer chi a’ch gweithlu ym mis Tachwedd:

Dyfarniad Lefel 3 – Atgyweirio a Chynnal a Chadw adeiladau (Cyn 1919): 4 ac 5 Tachwedd 2021

Mae’r cwrs achrededig deuddydd hwn yn darparu cymysgedd cytbwys o gynnwys ymarferol a theoretig sy’n amlygu pwysigrwydd gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw addas ar gyfer adeiladau hanesyddol.

Plastro calch a gwaith plastro Addurnol: 11 Tachwedd 2021

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â rendradau allanol; plasteri mewnol; plethwaith a dwb; a rhoi enghreifftiau o wahanol Gymysgeddau.

Cwrs pren strwythurol ac anstrwythurol: 12 Tachwedd 2021

Mae’r cwrs hwn yn rhoi crynodeb o sut i nodi’r gwahaniaeth rhwng pren Strwythurol ac Anstrwythurol, cydrannau adeiladu, yr hyn y gallech ddod o hyd iddo, diffygion cyffredin gyda phren ac atgyweirio a chynnal a chadw pren.

Prisio cadwraeth: 15 Tachwedd 2021

Rhoi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut i gyfrifo costau wrth gynhyrchu dyfynbrisiau / tendrau ar gyfer gwaith ar Adeiladau Traddodiadol (CYN 1919).

Morterau calch cymysgedd poeth – Uwch: 18 Tachwedd 2021

Mae’r cwrs hwn yn darparu crynodeb o gyfyngiadau calch, ei gryfderau, arfer orau, ychwanegu ychwanegion fel blew ceffyl, pozzolans, ac archwilio eu defnydd ac atgyweirio manylion.

Cwrs Gwaith Metel: 19 Tachwedd 2021

Bydd y cwrs gwaith metel yn ymdrin â gwneuthuriad ac atgyweirio gwaith metel sy’n bodoli eisoes. Gosod ar garreg neu is-ffram fetel i mewn i bren, trwsio ffenestri cast, peintio gwaith metel, ailosod gwydr mewn fframiau metel, gwaith haearn newydd, cael gwared â throellau ac anwastadrwydd, a gwaith selio gyda phwti.

Dyfarniad Achrededig Lefel 3 mewn Ynni ac effeithlonrwydd: 25 a 26 Tachwedd 2021

Dyluniwyd y cwrs achrededig deuddydd hwn i godi ymwybyddiaeth o effeithlonrwydd ynni eiddo cyn 1919.

Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyrsiau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â TBS@Wrecsam.gov.uk

Darperir y cyrsiau’n rhad ac am ddim drwy Raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian gan Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Pas Covid Sut i gael eich Pàs Covid os ydych chi’n mynd am noson allan
Erthygl nesaf Rogue Trader Swyddogion yn Wrecsam yn mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English