Mae set o gofroddion newydd sbon, yn dathlu atgofion arbennig trigolion Wrecsam, i’w chynhyrchu fel rhan o’r trefniadau ar gyfer agor y gofod newydd ar gyfer y celfyddydau, marchnadoedd a diwylliant yn y dref, Tŷ Pawb.
Drwy gydol y chwe mis diwethaf, mae cannoedd o bobl Wrecsam wedi rhannu eu storïau am y dref, drwy sgyrsiau mewn siopau coffi, gweithdai mewn ysgolion a stondinau mewn gwyliau stryd, a hefyd drwy gysylltu ar-lein.
Mae’r broses hon wedi datguddio hanesion am Wrecsam sydd heb eu clywed o’r blaen, a llawer o hoff ffeithiau, golygfeydd, seiniau a hyd yn oed arogleuon o’r dref!
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Y rhain fydd yr ysbrydoliaeth i gynhyrchu 6 chofrodd newydd a fydd ar gael i’w prynu yn Tŷ Pawb, pan fydd yn agor yn Ebrill 2018.
Meddai Jo Marsh, Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb: “Bydd Tŷ Pawb yn lle i’r gymuned gyfan ddod at ei gilydd, a bydd y set o gofroddion newydd sbon, fydd wedi’i hysbrydoli gan bobl Wrecsam ac yn dathlu holl ragoriaethau’r dref, yn dangos hynny i’r dim.
“Rydyn ni wedi cael ein cyfareddu gan y storïau a glywson ni. Maen nhw wedi gwneud i ni wenu , chwerthin, ac wedi dod ag ambell ddeigryn i’r llygad. Nid prosiect hanes oedd hwn, ond cyfle i ddatgelu’r pethau bach sy’n ei wneud yn lle mor arbennig i gynifer o bobl, ac rydyn ni’n ysu am gael rhannu’r storïau rydyn ni wedi’u casglu, a’n cofroddion newydd sbon, gyda phawb!”
Rhai o’r storïau a gasglwyd yw honno am y pencampwr bocsio Johnny Basham yn helpu bachgen ysgol i werthu papurau newydd yn y 1930au, un am gladdu miliynau o frics LEGO yn ddwfn o dan y dref i’w cadw rhag eu dinistrio, un am flaidd-ddynion yn crwydro strydoedd Wrecsam ac, wrth gwrs, atgofion lu am gic rydd Mickey Thomas!
Nawr bydd y cyhoedd yn cael cyfle i bleidleisio ar restr fer o 20 o’r storïau gorau a rannwyd, er mwyn penderfynu ar y chwe chofrodd a fydd yn cael eu cynhyrchu’n broffesiynol. Mae’r bleidlais yn cael ei chynnal nawr, a bydd yn cau ar Tachwedd 25.
Er mwyn pleidleisio, ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r gwefan hon.
Bydd y cofroddion newydd yn cael eu datgelu yn nigwyddiad agoriadol Tŷ Pawb, Dydd Llun Pawb, ar Ddydd Llun y Pasg, Ebrill 2il, 2018, a bydd holl fanylion y digwyddiad yn cael eu cyhoeddi cyn hir.
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU