Am 11 o’r gloch fore Dydd Iau, Medi 22 wrth Gofeb Olwyn y Glowyr, Pandy, cynhelir y gwasanaeth blynyddol er cof am drasiedi waethaf Wrecsam, sef trychineb Pwll Glo Gresffordd.
Fe deimlodd pawb yn Wrecsam effaith drom y drychineb, gan y bu farw rhywun o bron pob pentref yn y fwrdeistref sirol.
Dychmygwch…
Mae’n nos Wener, 21 Medi, 1934. Mae glowyr yn mynd i lawr i adran Dennis pwll glo Gresffordd er mwyn cychwyn eu shifft. Mae’n brysurach nac arfer gan bod llawer ohonynt yn ‘dyblu fyny’ er mwyn bod yn rhydd i wylio gêm bêl-droed Wrecsam ar y prynhawn dydd Sadwrn. Yn anffodus, dim ond 6 ohonyn nhw fydd yn dychwelyd.
Am 2:08am fore Sadwrn (22 Medi), rhwygodd ffrwydriad drwy’r pwll glo, gan ladd nifer fawr o lowyr.
Mae Edward William, Cynorthwywr Injan yn Dennis ar y pryd yn cofio: “Daeth yn nes fel taran ac yna aeth pobman yn ddu. Allech chi ddim gweld unrhyw beth.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
‘Yn union fel uffern’
Anfonwyd dros 200 o weithwyr achub mewn ymdrech i achub y glowyr. Dim ond 11 corff a adferwyd – a thri o’r rheiny yn perthyn i’r tîm achub cyntaf. Dywedodd un o’r achubwyr bod y pwll glo ‘yn union fel uffern’.
Pan gyrhaeddodd y newyddion y dref, ymgasglodd torfeydd o amgylch y pwll – menywod a phlant yn aros am anwyliaid na fyddent byth yn dod adref.
Wedi 40 awr o waith caled daeth yn amlwg i’r achubwyr nad oedd neb ar ôl yn fyw i’w hachub, felly penderfynwyd cau’r siafftiau am 6pm ar y prynhawn Sul.
Y canlyniadau
Roedd trychineb Pwll Glo Gresffordd yn un o drychinebau gwaethaf Wrecsam… ond nid oes llawer o sylw wedi ei roi i ganlyniadau’r drychineb, a’r effaith a gafwyd ar deuluoedd a chydweithwyr y dioddefwyr. O ganlyniad i’r ffrwydriad, roedd 200 yn weddw, 800 heb dad a 1,600 yn ddi-waith.
Roedd hyn mewn cyfnod lle nad oedd yr un cyfleoedd gan fenywod ag oedd gan ddynion. Roedd colli gŵr yn golygu mwy na bod yn wraig weddw alarus…roedd yn golygu bod yn weddw gyda’r cyfrifoldeb o ddarparu ar ei chyfer ei hun a’i phlant heb unrhyw ffynhonnell incwm.
Bu’n rhaid i weddill y dynion a gyflogwyd yn y pwll glo edrych am waith arall – yn aml heb unrhyw lwc. Roedd y dyfodol i’w weld yn ddigalon iawn i Wrecsam; byddai rhai yn ei chael hi’n anodd goroesi hyd yn oed. Byddai’n chwe mis tan i’r pwll ail agor.
Bu’r drasiedi yn y newyddion cenedlaethol a derbyniodd gydnabyddiaeth gan y Brenin. Lledodd y gair am y teuluoedd oedd yn ei chael hi’n anodd a sefydlwyd cronfa gymorth er mwyn helpu’r rheiny oedd mewn angen. Codwyd mwy na £550,000, fodd bynnag ni ellid gwneud iawn am y bywydau a gollwyd.
Cofio, 88 mlynedd yn ddiweddarach…
Eleni mae hi’n 88 mlynedd ers i 266 o ddynion a bechgyn golli eu bywydau.
Cynhelir y gwasanaeth coffa blynyddol i nodi Trychineb Pwll Glo Gresffordd ddydd Iau, 22 Medi am 11am ger Cofeb Olwyn y Glowyr, Bluebell Lane, Pandy. Bydd y gwasanaeth yn fyr ac anffurfiol, ac mae croeso i bawb fynychu.
Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron: “Fe deimlodd pawb yn Wrecsam effaith drom trychineb Gresffordd, gan y bu farw rhywun o bron pob pentref yn y fwrdeistref sirol. “Mae’n rhan eithriadol o drist o’n hanes yn Wrecsam, ac anghofiwn ni fyth amdano.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH