Rydym eisiau gwirfoddolwyr i’n helpu i blannu coed mawr mewn dwy ardal yn Wrecsam ym mis Mawrth.
Bydd diwrnodau plannu yn digwydd yn y man gwyrdd yn St Giles Crescent ym Mharc Caia dydd Sul, 3 Mawrth rhwng 10-4pm ac yn Pendine Way yng Ngwersyllt dydd Sul, 10 Mawrth rhwng 10-4pm.
Rydym yn plannu 11 coeden yn St Giles Crescent a 4 coeden dderw a pherllan ffrwythau yn Pendine Way. Mae llawer o ymdrech i baratoi’r ddaear wrth blannu coed mawr yn lle egin, felly rydym angen gymaint o help â phosibl i’w cael yn y ddaear. Hefyd byddwn yn gosod polyn, amddiffyniad a rhoi tomwellt o amgylch pob coeden fel eu bod yn cael eu hamddiffyn yn dda ac yn cael y dechrau gorau yn eu cartref newydd.
Pwy yw Trees for Cities?
Mae Trees for Cities yn elusen yn y DU sydd yn gweithio ar raddfa cenedlaethol a rhyngwladol i wella bywydau drwy blannu coed mewn dinasoedd, mewn ardaloedd sydd yn helpu i adfywio mannau sydd wedi eu anghofio amdanynt; gan greu amgylcheddau iachach i bobl a bywyd gwyllt.
Mae’r gwaith yma hefyd yn cefnogi gweledigaeth Partneriaeth Coedwig Wrecsam a Strategaeth Coetir a Choed y Cyngor fel yr ydym yn ymrwymo i gynyddu gorchudd canopi ar draws y sir. Mae gan Bartneriaeth Coedwig Wrecsam weledigaeth gyffredin i ddiogelu a gwella cynefinoedd coetir ar draws y Sir ac yn awyddus i gael cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer coetiroedd yn Wrecsam ac maent wedi creu Addewid Coetir Wrecsam fel ffordd o gynnwys y cyhoedd.
Os ydych chi’n pryderu am ein coetiroedd yn Wrecsam, gallwch gytuno i’r addewid. Rydym eisiau i bawb, o unigolion i fusnesau a grwpiau cymunedol, roi eu cefnogaeth a dysgu am y ffyrdd y gallwn amddiffyn y cynefin hollbwysig yma a gallwch lofnodi’r addewid ac ymuno â’r rhestr bostio yma.
Yn ogystal gallwch ddilyn Addewid Coetir Wrecsam ar Facebook ac X (twitter) i gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau a digwyddiadau.
Dewch yn gwisgo dillad cynnes ac esgidiau/welis cadarn. Argymhellir menig hefyd.
Mae’r dyddiadau plannu yn bosibl diolch i gyllid gan Trees for Cities sydd wedi’i roi i blannu dros 60 coeden fawr ar draws y Sir. Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Coetiroedd Bach, manteision anferthol i Wrecsam