Ddydd Mercher 2 Mai rhwng 1 – 2pm bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ymweld â Llyfrgell Wrecsam ac yn rhoi sgwrs am ddim.
Dyma’r cyfle perffaith i chi ddweud wrthi beth sy’n bwysig i chi a darganfod sut y gall helpu. Mae’r Comisiynydd yn lais annibynnol ac yn gefnogwr pobl hŷn ar draws Cymru gyfan. Mae’n gweithio i wneud yn siŵr bod Cymru yn le da i dyfu’n hŷn – nid dim ond i rai ond i bawb.
Mae’n gweithio i sicrhau bod y rheiny sy’n agored i niwed neu mewn peryg yn cael eu cadw’n ddiogel, ac yn sicrhau bod pob person hŷn â llais sy’n cael ei glywed, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo’n unig nac yn teimlo bod rhagfarn yn eu herbyn, a’u bod yn derbyn y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Caiff gwaith y Comisiynydd ei yrru gan beth mae pobl hŷn yn ei ddweud sy’n bwysig iddyn nhw, ac mae eu lleisiau nhw wrth galon popeth mae’n ei wneud.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o sesiynau Dysgu Dros Ginio, a gynhelir gan lyfrgell Wrecsam ar ddydd Mercher cyntaf bob mis.
Bwriad y rhaglen Dysgu Dros Ginio yw archwilio dulliau newydd lle gallwch ddysgu a hynny wrth gael hwyl hefyd, a phob mis gall ymwelwyr â’r llyfrgell gymryd rhan mewn sesiynau newydd cyffrous.
Mae hwn yn sesiwn am ddim yn Llyfrgell Wrecsam dydd Mercher 2 Mai, 1-2pm.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI