Mae Caru Cymru yn cynnal diwrnod ailgylchu cymunedol ym Mrynteg, ddydd Llun, Mawrth 20, ac fe anogir preswylwyr i ddod draw i ailgylchu’r eitemau nad oes eu hangen arnynt.
Cynhelir y digwyddiad yn Galaxy Grove, Brynteg, LL11 6LJ rhwng 10am-3pm, a chynhelir nifer o weithgareddau gwahanol y gallwch gymryd rhan ynddynt.
Yn gyntaf, byddwch yn gallu casglu sachau glas ar gyfer ailgylchu papur, yn ogystal â bagiau cadi i’w defnyddio ar gyfer ailgylchu bwyd.
Bydd sgip yno, y gellir ei ddefnyddio i gael gwared ar eitemau’r cartref nad oes eu hangen arnoch.
Bydd Cyfnewidfa Ddillad Wrecsam yn cymryd rhan yn y digwyddiad a byddwch yn gallu cyfnewid eich llyfrau, hetiau, sgarffiau, menyg neu fagiau am rywbeth arall fydd yn mynd â’ch bryd.
Cynhelir sesiwn casglu sbwriel am 11am ac mae croeso i chi gymryd rhan.
Cewch gyfle hefyd i ddysgu mwy am uwchgylchu a sut i roi bywyd newydd i’ch eitemau.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ffoniwch 0800 183 5757.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD