Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid
Y cyngor

Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 2:56 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Sheltered Housing
RHANNU

Rydym wedi gwneud gwaith ailwampio sylweddol ar gynllun tai gwarchod Tir y Capel yn Llai sy’n darparu llety byw yn annibynnol i bobl 60 oed a drosodd.

Cafodd y cynllun ei adeiladu’n wreiddiol yn 1984 yn Llai gan ddarparu 21 rhandy.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Roedd y gwaith ar y cynllun wnaeth gymryd dros 17 mis i’w gwblhau yn cynnwys stripio’r adeiladau yn ôl i’r gragen ac ychwanegu to newydd, inswleiddio waliau mewnol, rendro allanol a ffenestri gwydr triphlyg y tu allan.

Mae ardal y llawr wedi’i gynyddu drwy gynnwys cilfachau gyda chladin ymyl metel a tho sy’n trawsnewid edrychiad cyffredinol y cynllun.  Mae’r tu mewn i’r rhandai wedi ei ailfodelu, gyda’r ceginau nawr yn uniongyrchol o’r ardal fyw i allu symud yn rhwydd o un le i’r llall a gosodwyd ystafelloedd gwlyb i ddarparu mynediad o’r cyntedd a’r ystafell wely.

Mae yna elfen adnewyddadwy mawr i’r prosiect, gyda phob rhandy yn cael ei wresogi gan bympiau gwres yr awyr.  Mae paneli ffotofoltäig wedi eu gosod a’u cysylltu i’r ardal gymunedol i helpu i leihau costau ffioedd gwasanaeth i denantiaid ar gyfer gwresogi a thrydan ac mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi’i gynnwys.

Mae’r lolfa gymunedol wedi’i ailddylunio i’w defnyddio gan yr holl denantiad.   Mae’r rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd ac maent yn fannau cymdeithasol pwysig sy’n helpu gyda lles, unigrwydd ac ynysiad tenantiad.

Mae’r ardaloedd allanol wedi eu huwchraddio i ddarparu mynediad o amgylch yr adeilad a’r gerddi wedi eu tirlunio.  Mae’r system larwm warden, system fynedfa fideo wedi’i uwchraddio a system chwistrellu newydd wedi’i osod.

Cafodd Penseiri Ellis Williams eu penodi i ddylunio a rheoli ailfodelu’r cynllun, oedd yn cynnwys llety un ystafell wely bach yn wreiddiol, nad oedd yn llwyddo i fodloni dyheadau llawer o bobl hŷn heddiw o ran dyluniad, lle, hygyrchedd ac effeithlonrwydd.

Cafodd y gwaith ailwampio ar raddfa fawr ei wneud gan gwmni lleol Read Construction.

Mae gwaith ailwampio yn parhau yn yr ail gynllun tai gwarchod yn Llys y Mynydd, Rhos a amcangyfrifir y cwblheir erbyn yr Hydref 2023.

Tir y Capel: cwblhawyd i safon uchel iawn

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Tai: “Rydym yn gyffrous iawn i groesawu tenantiaid newydd a rhai sy’n dychwelyd i Dir y Capel.  Mae’r llety newydd wedi’i gwblhau i safon uchel iawn ac rwy’n gyffrous i’r preswylwyr symud i mewn i beth sydd nawr yn enghraifft eithriadol o dai gwarchod a’r cyntaf o lawer o  gynlluniau i gael eu hailwampio yn Wrecsam.”

Mae’r cyllid ar gyfer y gwaith wedi’i sicrhau o’r Cyfrif Refeniw Tai a Grant Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru a Rhaglen Ôl-osod Wedi’i Optimeiddio.

I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau Tai Gwarchod Cyngor Wrecsam ewch i:  Safleoedd Tai Gwarchod (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Llun cyn gwneud y gwaith:

Tir y Capel

Nawr:

Tir y Capel

Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid
Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid
Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid
Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid
Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid
Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid
One of the new kitchens at the Erw Gerrig scheme
Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid
Cynllun Lloches Gwell ac wedi’i Ailwampio yn Nhir y Capel yn croesawu tenantiaid

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol International Women's Day Dewch draw i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth
Erthygl nesaf Community recycling day Gall diwrnod ailgylchu cymunedol eich helpu chi i arbed arian

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English