Mae’r Grŵp Gwrth-Nwyddau Ffug (ACG) wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Blynyddol ac yn rhybuddio busnesau i fod yn barod i weld cynnydd yn nifer y cynnyrch ffug sydd ar y strydoedd pan fo’r argyfwng iechyd presennol yn dod i ben.
Mae nwyddau ffug sydd wedi’u mewnforio i’r DU â gwerth o dros £13 biliwn ac yn arwain at golledion o £4 biliwn i’r sector adwerthu a chyfanwerthu. Y pryder yw y byddwn yn wynebu ystod hyd yn oed yn ehangach o nwyddau ffug sy’n is na’r safon ac yn beryglus.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Rhybuddiodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Gwrth-Nwyddau Ffug, Phil Lewis, y bydd troseddwyr yn brysur yn gweithgynhyrchu a phentyrru nwyddau ffug, yn barod i farchnata a gwerthu eu nwyddau.
“Mae angen i ni fod yn barod”
Eglurodd Phil: “Gan fod gwneuthurwyr nwyddau ffug yn gweithio’n galed i elwa o bandemig y coronafeirws, byddant hefyd yn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae angen i ni fod yn barod ac ennill y blaen arnynt.
“Mae’n hanfodol bod arbenigwyr ar gael, sy’n gallu rhoi cynlluniau ar waith i fynd i’r afael â rhwydweithiau troseddol yn y DU, ond sydd hefyd yn deall sefyllfa, systemau a chyfreithiau’r gwledydd y mae’r nwyddau ffug yn dod ohonynt, megis Tsieina, Twrci ac India.
“Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn dangos yr hyn y gall brandiau ei wneud wrth weithio mewn cydweithrediad ag ACG a’r gorfodwyr. Gyda’n gilydd rydym yn gwneud gwahaniaeth drwy fynd i’r afael â nwyddau ffug lefel uchel ac atal eu dosbarthiad ar y stryd ac ar-lein, tra’n cynghori llywodraethau a gweithio mewn partneriaeth i rybuddio defnyddwyr ynglŷn â’r peryglon o brynu cynnyrch ffug”.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19