Rydym ni’n ymgynghori pa unai a ddylid codi premiwm Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar nifer o gwestiynau megis a ddylai cyfradd y premiwm godi o 50% i 100% ar 1 Ebrill 2024, ynghyd â chynnydd pellach o fis Ebrill 2025. Rydym yn ceisio barn hefyd ynglŷn ag a ddylai eiddo sydd wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd dalu premiwm uwch na’r cyfraddau a amlinellir uchod.
Bwriad y premiwm yw annog eiddo gwag i gael eu defnyddio eto ar draws y Fwrdeistref Sirol a thrwy wneud hynny, cynyddu’r cyflenwad o dai yn lleol.
Mae yna nifer o sefyllfaoedd lle nad yw eiddo gwag yn talu’r premiwm e.e. os ydynt ar werth neu’n cael eu gosod, ond mae’r rhain yn gyfyngedig o ran natur ac amser. Caiff pob achos ei ystyried ar ei delerau ei hun.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynghorydd Mark Pritchard, “Mae hi’n bwysig ein bod ni’n ceisio gwneud y mwyaf o’r cyflenwad o eiddo sydd ar gael i’w gwerthu neu eu gosod. Adolygu cyfradd y premiwm ar eiddo gwag hirdymor yw un o’r teclynnau sydd gan y Cyngor i helpu i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto. Buaswn yn annog pobl i ymateb i’r ymgynghoriad yma a byddwn yn gwrando’n ofalus ar yr adborth.”
Fe fydd yr ymgynghoriad yn cau ar 17 Medi 2023 a bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn y Cyngor Llawn ym mis Medi. I rannu eich barn, cymerwch ran yn yr ymgynghoriad yma.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch