Dylech ymddwyn fel pe bai’r firws arnoch
Mae Wrecsam yn parhau i fod â’r lefelau uchaf o coronafeirws yng Nghymru (868 i bob 100k o’r boblogaeth saith diwrnod yn olynol).
Mae’r amrywiolyn newydd yn lledaenu’n gyflym a bellach, dyma sy’n gyfrifol am hyd at 80% o’r holl achosion newydd.
Mae pobl o bob oed yn cael eu taro’n wael, rhai yn marw, ac mae ein gwasanaethau iechyd lleol o dan bwysau aruthrol.
Mae hi’n ddrwg…ond mae gobaith.
Mae’r ffigurau yn Wrecsam wedi gostwng ychydig heddiw, a chyn bo hir, dylai’r cyfnod clo a gyflwynwyd ar draws Cymru ar 20 Rhagfyr ostwng y niferoedd eto.
Mae’r rhaglen frechu hefyd ar y gweill.
Ond ni ddylech gamgymryd….mae’r sefyllfa yn dal yn ddifrifol iawn ac mae’r neges yn syml:
Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch chi – a phawb rydych yn eu cyfarfod.
Mewn geiriau eraill, byddwch yn hynod ofalus a pheidiwch â chymysgu hefo pobl o aelwydydd eraill…y tu mewn na’r tu allan.
Gall ein penderfyniadau ni o ddydd i ddydd wneud gwahaniaeth rhwng byw a marw i rywun.
Rhifau = pobl
Mae’r fideo hwn yn dangos sut mae’r rhifau wedi codi a gostwng yn Wrecsam yn ystod y pandemig. Mae’n ein hatgoffa mor gyflym y gall Covid-19 ledaenu, ac mae’n bwysig cofio fod pob rhif yn cynrychioli pobl sydd wedi cael y firws.
Rhifau = pobl
Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Achosion COVID-19 i bob 100,000 ???? pic.twitter.com/uOB4uFCW5M
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) January 15, 2021
Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi
Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd Wrecsam wedi gwella ychydig ers dechrau’r wythnos hon, er bod rhai wedi gwaethygu ac mae’r ffigurau yn dal yn uchel iawn. Dyma’r ardaloedd sydd â mwy na 700 i bob 100k o’r boblogaeth:
- Hermitage a Whitegate (1,337 i bob 100k)
- Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd (1,249)
- Gogledd y Dref, y Brifysgol a Rhosddu (1,137)
- Rhos a De Johnstown (1,110)
- Parc Caia (1,087)
- New Broughton a Bryn Cefn (1,044)
- De Llai a Dwyrain Gwersyllt (947)
- Gorllewin Wrecsam (912)
- Coedpoeth a Brymbo (855)
- Penycae a’r Mwynglawdd (820)
- Acton a Maesydre (791)
- Gresffordd, Marford a’r Orsedd (749)
Yn Wrecsam, mae’r firws yn llwyddo i gyrraedd cartrefi pobl ac yn lledaenu ymysg aelodau’r teulu.
Mae hefyd i’w weld mewn rhai cartrefi gofal, mannau gwaith, yr ysbyty a’r carchar.
Cynnig y brechlyn yn Wrecsam
Mae staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn Wrecsam yn parhau i gael eu brechu.
Fel cyngor, rydym hefyd wedi darparu enwau staff rheng flaen gofal cymdeithasol fydd angen y brechlyn cyn gynted a bo modd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio brechu:
- Holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal, pobl dros 70 a phobl sydd â chyflyrau iechyd blaenorol erbyn canol mis Chwefror.
- Pobl dros 50 oed erbyn y gwanwyn.
- Pob oedolyn arall erbyn yr hydref.
Yn yr wythnosau sydd i ddod, dylai pob aelwyd yn Wrecsam dderbyn llythyr gan y bwrdd iechyd, a bydd nifer wedi ei dderbyn yn barod trwy e-bost.
Mae’n egluro mwy am roi’r brechlyn – gan gynnwys sut y cysylltir â chi ynglŷn ag apwyntiad.
Mae’r rhan fwyaf o’r brechlynnau yn cael eu rhoi ar hyn o bryd mewn Canolfannau Brechu Torfol yng Ngogledd Cymru.
Ond, mae cynlluniau yn eu lle i weithredu Canolfannau Brechu Lleol yn Wrecsam lle mae eu hangen, a defnyddio meddygfeydd hefyd.
Ysgolion a dysgu o bell
Fel gweddill Cymru, mae ysgolion Wrecsam yn parhau i ddarparu dysgu o bell i ddisgyblion.
Oni bai fod gostyngiad sylweddol yn lefelau’r firws, bydd hyn yn parhau hyd hanner tymor Chwefror.
Dyma sy’n rhaid i bawb ei wneud
Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch chi – a phawb rydych yn eu cyfarfod.
Daliwch i gadw at y cyfyngiadau presennol yng Nghymru a:
- Peidiwch â chymysgu efo pobl eraill o aelwydydd eraill ( y tu mewn na’r tu allan).
- Dylech deithio at ddibenion hanfodol yn unig…megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.
Mae’n hawdd ei ddeall, weithiau yn anodd ei wneud, ond mae’n rhaid i bawb aros yn gryf a dal ati.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol