Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – amrywiolyn newydd yn lledaenu, mwy o bobl yn mynd yn sâl, y GIG dan bwysau aruthrol.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – amrywiolyn newydd yn lledaenu, mwy o bobl yn mynd yn sâl, y GIG dan bwysau aruthrol.
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – amrywiolyn newydd yn lledaenu, mwy o bobl yn mynd yn sâl, y GIG dan bwysau aruthrol.

Diweddarwyd diwethaf: 2021/01/11 at 3:26 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
Covid-19
RHANNU

Mae hyn i gyd yn digwydd…ac mae’n rhaid i ni frwydro yn ei erbyn.

Mae lefelau’r Coronafeirws yn Wrecsam yn awr yn uwch nag yn unman arall yng Nghymru (905 fesul 100 mil o’r boblogaeth ar sail saith diwrnod treigl).

Cynnwys
Mae hyn i gyd yn digwydd…ac mae’n rhaid i ni frwydro yn ei erbyn.Mae hyn yn fater o fyw neu farw.Os nad ydym yn diogelu’r GIG, all y GIG ddim ein diogelu ni.Mae dau beth y gallwn eu gwneud rŵan hyn ….Diweddariad am yr ysgolion – dysgu o bell i barhauDiweddariad ar y rhaglen frechu – Wrecsam a Gogledd CymruNewyddion diweddaraf ….Meddyliwch cyn rhannuDiweddariadau a data lleolFfynonellau o wybodaeth ddefnyddiol

Mae’r amrywiolyn newydd yn lledaenu’n gyflym ac yn cyfrif am 70% o bob achos newydd.

Mae pobl yn eu 20au, 30au a’u 40au  yn mynd yn sâl ….nid dim ond pobl hŷn.

Mae rhai yn ddifrifol wael. Mae rhai yn marw.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae hyn yn digwydd rŵan, yn Wrecsam.

Mae o hefyd yn digwydd yn y sir gyfagos, Sir y Fflint, lle mae’r lefelau’r 3ydd uchaf yng Nghymru (ar ôl Wrecsam a Phen-y-bont Ar Ogwr), felly mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn wynebu cyfnod heriol iawn.

Mae’r feirws hefyd yn Lerpwl, Manceinion a Swydd Gaer.

Fel yng ngweddill y DU, mae gwasanaethau GIG lleol dan bwysau aruthrol ac os nad ydyn yn gweithredu rŵan, bydd y canlyniadau’n dorcalonnus.

Mae hyn yn fater o fyw neu farw.

Mae’r rhaglen frechu ar y gweill,  ac mae sicrhau ein bod ni i gyd yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau yn hollbwysig o ran ein helpu ni i ddod drwy’r sefyllfa hon.

Ac er y gwyddom fod yr amrywiolyn newydd yn lledaenu’n gynt a bod plant yr un mor debygol o’i ddal a’i ledaenu ag oedolion –  nid oes unrhyw arwyddion ei fod yn fwy peryglus ac na fydd y brechlynnau’n gweithio yn ei erbyn..

Felly mae ‘na obaith….os ydym ni i gyd yn gwneud y peth iawn.

Covid-19 variant

Os nad ydym yn diogelu’r GIG, all y GIG ddim ein diogelu ni.

Yn y cyfryngau’r wythnos hon rydym wedi gweld lluniau o ysbytai ym mhob rhan o’r DU lle mae’r meddygon a’r nyrsys yn gwneud popeth bosib nid yn unig i helpu cleifion Covid-19 ond hefyd pobl â chyflyrau ac anafiadau difrifol eraill.

Mae ymrwymiad a phroffesiynoldeb staff y GIG yn aruthrol, ond mae’n rhaid i ni i gyd eu helpu nhw drwy gadw ein hunain mor ddiogel â phosibl.

Os na wnaethoch ei glywed yn gynharach yr wythnos hon, mae’n werth gwrando ar y cyfweliad gyda Dr Steve Stanaway yn Ysbyty Maelor Wrecsam….

Mae dau beth y gallwn eu gwneud rŵan hyn ….

Dyma’r ddau beth y gallwn ni i gyd eu gwneud i arafu lledaeniad y feirws, lleddfu’r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd ac arbed bywydau:

  • Peidio â chymysgu ag aelwydydd eraill (y tu mewn na’r tu allan)
  • Peidio â theithio oni bai bod gwneud hynny’n gwbl hanfodol – er enghraifft ar gyfer gwaith, am resymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.

Mae’r pethau yma’n hawdd i’w deall ond weithiau’n anodd eu gwneud, ond mae’n rhaid i ni i gyd wneud hyn os ydym am weld pethau’n newid er gwell.

Ewch i  wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Diweddariad am yr ysgolion – dysgu o bell i barhau

Cyhoeddwyd heddiw y bydd plant ar draws Cymru yn parhau i ddysgu ar-lein yn eu cartrefi.

Bydd hyn yn parhau tan hanner tymor mis Chwefror, oni bai bod lefelau’r Coronafeirws yn gostwng yn sylweddol cyn Ionawr 29.

Diweddariad ar y rhaglen frechu – Wrecsam a Gogledd Cymru

Mae rhaglen frechu’r DU wedi cychwyn ac er y bydd yn cymryd amser, dylai ddechrau ein helpu ni i ennill y frwydr cyn bo hir. Mae yna obaith.

Dyma drosolwg cyflym o’r hyn sy’n digwydd yn lleol:

  • Bydd Gogledd Cymru yn derbyn 22% o bob brechlyn sydd ar gael yng Nghymru, yn seiliedig ar faint y boblogaeth.
  • Yn Wrecsam, mae staff cartrefi gofal ar hyn o bryd yn cael eu brechu mewn canolfan frechu yng Nglannau Dyfrdwy.
  • Wrth i fwy o stoc ddod i law, bydd grwpiau blaenoriaeth yn y boblogaeth ehangach yn cael cynnig y brechlyn.
  • Rhoddir blaenoriaeth i bobl dros 80 oed gan mai nhw yw’r mwyaf agored i niwed.
  • Bydd argaeledd brechlyn Rhydychen yn gwneud gwahaniaeth aruthrol (yn wahanol i frechlyn Pfizer nid oes angen ei gadw ar dymheredd isel dros ben).

Gallwch ddarllen mwy am ledaeniad y brechlyn yn y ‘diweddariad ar gyfer cynghorwyr’ yn ar waelod y nodyn briffio hwn.

Cewch fwy o wybodaeth hefyd ar wefan Chwaraeon Cymru

Newyddion diweddaraf ….

Moderna vaccine becomes third COVID-19 vaccine approved by UK regulator

Meddyliwch cyn rhannu

Mae llawer o ‘ffeithiau’ camarweiniol yn cael eu rhannu yn y cyfyngau cymdeithasol

Weithiau mae’n anfwriadol, weithiau’n fwriadol, ac ambell dro gall yn llythrennol beryglu bywydau. Oherwydd, yn ystod pandemig, gall gwybodaeth ffug fod yn farwol.

Felly, cyn i chi rannu unrhyw wybodaeth am y Coronafeirws, gofalwch ei bod wedi dod o ffynhonnell ddibynadwy.

When you read about coronavirus from an unverified source, do you check it’s correct before sharing?

Anyone can make up stats or post false information. We all have a responsibility to make sure what we share is true.

Check the facts – #KeepWalesSafe ????https://t.co/YPZkdfXN6z pic.twitter.com/V9JFTlPVgh

— Welsh Government #StayHome???? (@WelshGovernment) January 6, 2021

Diweddariadau a data lleol

Rydym yn anfon diweddariadau Covid-19 at gynghorwyr bob dydd Llun a dydd Gwener, sy’n cynnwys data Iechyd Cyhoeddus Cymru am lefelau’r Coronafeirws yn Wrecsam.

Mae Cynghorwyr yn defnyddio’r diweddariadau hyn er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w cymunedau, a gall y cyfyngau lleol hefyd helpu i rannu gwybodaeth.

Os hoffech ddarllen diweddariad heddiw, agorwch y ddogfen PDF isod:

  • Diweddariad Covid-19 ar gyfer Cynghorwyr Wrecsam – Ionawr 8
  • Tabl 1 – data Gogledd Cymru
  • Tabl 2 – data ardal leol Wrecsam (yn cynnwys lefelau’r feirws yn eich ardal leol chi)

Ffynonellau o wybodaeth ddefnyddiol

      • Gwefan Llywodraeth Cymru –

    Cwestiynau Cyffredin am Gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

CANFOD Y FFEITHIAU

Rhannu
Erthygl flaenorol Country Parks Mae’r meysydd parcio yn ein Parciau Gwledig bellach ar gau
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – mae hi’n ddrwg….ond mae gobaith

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English