Covid 19
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad o’r wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddoe (18.3.20)
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Y Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Fel Prif Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Wrecsam rydym ni’n gofyn i chi wneud popeth o fewn eich gallu i gadw’n ddiogel ac i helpu eraill.

Mae pethau yn newid yn ddyddiol a phob awr, ac rydym ni’n sylweddoli bod hwn yn gyfnod brawychus ac ansicr i bawb.

Fel Cyngor, rydym ni’n parhau i gydbwyso lles ac anghenion ein staff – er mwyn iddyn nhw aros yn ddiogel a pharhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol – gyda lles ac anghenion ein preswylwyr a’n cymunedau.

Fodd bynnag, er mwyn ymateb i effaith y feirws, rydym ni’n gorfod gwneud newidiadau dyddiol i’r ffordd rydym ni’n darparu ein gwasanaethau.

Rydym ni’r darparu’r wybodaeth ganlynol i’ch helpu chi ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r Cyngor, ac i ategu’r cyngor sy’n cael ei rannu gan Lywodraeth y DU a’r gwasanaethau iechyd.

Gwasanaethau wyneb yn wyneb ac adeiladau cyhoeddus

Mae rhywfaint o’n gwasanaethau wyneb yn wyneb eisoes wedi’u hatal, a byddwn yn cau pob un o’n derbynfeydd wyneb yn wyneb o fory ymlaen.
Rydym ni’n annog cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaeth a chysylltu â ni ar-lein os yn bosibl.

Galw Wrecsam a Neuadd y Dref

Mae gwasanaethau wyneb yn wyneb yng Ngalw Wrecsam ar Stryt yr Arglwydd wedi’u hatal ac yn Neuadd y Dref dim ond cwsmeriaid gydag apwyntiadau wedi’u trefnu ymlaen llawn y byddwn ni’n eu gweld.

Gallwch barhau i ddefnyddio gwasanaethau a derbyn gwybodaeth ar wefan y Cyngor.

Swyddfeydd Stadau Tai

Bydd swyddfeydd stadau tai yn aros ar agor am y tro ond, i ddiogelu staff a thenantiaid, ni fydd gwasanaethau derbynfa wyneb yn wyneb ar gael.

Fodd bynnag, mi fyddwch chi’n dal yn gallu defnyddio’r rhadffôn yn y dderbynfa i roi gwybod am bethau sydd angen eu trwsio yn ogystal â’r ciosgau talu.

Gofynnwn yn garedig i chi rannu’r wybodaeth yma gyda’ch cymdogion a thenantiaid eraill.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Siop Wybodaeth – Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor i Bobl Ifanc

Oherwydd bod gennym ni lai o staff, bydd y Siop Wybodaeth ar Stryt y Lampint ar agor ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener o 3pm tan 5.30pm yn unig – felly mi fyddwn ni’n dal yn gallu darparu cyngor rhywiol i bobl ifanc dan 25.

Byddwn hefyd yn newid cynllun yr ardal aros ac ni fyddwn yn gadael mwy na 10 person i mewn ar y tro.

Mae modd i bobl ifanc ac arnyn nhw eisiau cyngor a gwybodaeth siarad efo gweithiwr ieuenctid dros y ffôn drwy ffonio’r rhifau canlynol rhwng 12pm a 3pm.

• Dydd Llun – 07585 103649
• Dydd Mawrth – 07584 440126
• Dydd Mercher – 07585 103631
• Dydd Iau – 07976 660531
• Dydd Gwener – 07800 688823

Gall pobl ifanc hefyd anfon neges i infoshop@wrexham.gov.uk ac edrych ar www.youngwrexham.co.uk i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae Wrecsam Ifanc hefyd ar Twitter a Facebook.

Cau llyfrgelloedd a chyfleusterau cymunedol eraill

O’r fory ymlaen, ni fyddwch yn gallu cerdded i mewn i adeiladau fel ein llyfrgelloedd (byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am adnewyddu benthyciadau ac ati fory), canolfannau teuluoedd, canolfannau adnoddau na’r Neuadd Goffa.

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth neu gysylltu â ni, ewch ar-lein.

Biniau ac ailgylchu

Byddwn yn gwagio biniau ac yn casglu deunyddiau ailgylchu yn ôl yr arfer, hyd y gallwn.

Fodd bynnag, o ddydd Llun 23 Mawrth, bydd yn rhaid i ni atal ein gwasanaeth ‘gwastraff swmpus’ sy’n golygu na fyddwn ni’n gallu casglu eitemau mawr.

Ni fyddwn chwaith yn danfon biniau newydd.

Bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor, ond bydd ganddyn nhw drefniadau gweithredol diwygiedig ar waith. Byddwn yn parhau i fonitro’r cyfleusterau hyn ac, os bydd unrhyw newid yn effeithio ar y cyhoedd, byddwn yn siŵr o roi gwybod i chi.

Ysgolion

Cau ysgolion

Ddoe cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau, o ran darpariaethau addysg statudol, erbyn dydd Gwener 20 Mawrth.

Yn ei datganiad dywedodd y gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams, y bydd ysgolion yn ymgymryd â rôl newydd am y tro – sef cefnogi’r rheiny â’r angen fwyaf, gan gynnwys pobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r ymateb i’r coronafeirws.

Rydym ni wedi gofyn am fwy o eglurhad o ran beth yw goblygiadau hyn i ysgolion Wrecsam.

Parciau gwledig a lleiniau bowlio

Tŷ Mawr, Dyfroedd Alun a Mwyngloddiau Plwm y Mwynglawdd

Mae Bydd Parc Gwledig Tŷ Mawr ar agor ond mae’r gweithgareddau a’r digwyddiadau wedi’u canslo, a bydd y siop/pafiliwn ar gau ddydd Llun 23 Mawrth ymlaen.

Mae Parc Gwledig Dyfroedd Alun hefyd ar agor ond, unwaith eto, mae’r gweithgareddau a’r digwyddiadau wedi’u canslo, a bydd y pafiliwn ar gau ddydd Llun 23 Mawrth ymlaen. Mae’r caffi yn cael ei redeg dan brydles gan Groundwork. Bydd unrhyw newid i drefniadau’r caffi yn cael ei gyhoeddi gan reolwr y caffi.

Bydd Mwyngloddiau Plwm y Mwynglawdd yn parhau ar agor.

Parciau eraill, meysydd chwarae a lleiniau bowlio

Bydd y canlynol yn berthnasol o ddydd Llun 23 Mawrth ymlaen:

● Y Parciau – y parc ar agor ond y cyfleuster bowlio ar gau
● Ponciau – parc ar agor ond y pafiliwn ar gau
● Johnstown – y llain fowlio a’r pafiliwn ar gau
● Coed-poeth – cyfleuster bowlio ar gau
● Cunliffe (Parc Acton) – parc ar agor ond y cyfleuster bowlio ar gau
● Pentre Broughton – y cyfleuster bowlio a’r pafiliwn ar gau

Bydd pob pafiliwn pêl-droed ar gau.

Meysydd chwarae a rhandiroedd garddio

Bydd holl feysydd chwarae a rhandiroedd y Cyngor yn parhau ar agor ond rydym ni’n cynghori defnyddwyr i ddefnyddio synnwyr cyffredin a dilyn y canllawiau iechyd diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Cofiwch – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19

Darperir yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y dylai pobl wneud drwy:

● Datganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (yn cynnwys Prif Weinidog)
● Briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, a gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Fedrwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Fe allwch chi gofrestru fel gwirfoddolwr i helpu staff sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cynlluniau ymgyfeillio cymunedol.

Mae AVOW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam) yn annog pobl i gofrestru.

Mae hon yn sefyllfa sy’n newid yn gyflym, felly byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth bellach fel y bo’n briodol.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19