Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 24.3.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Eisteddfod Wrecsam 2025 - cyrraedd y Maes
Eisteddfod Wrecsam 2025 – cyrraedd y Maes
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 24.3.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 24.3.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/03/31 at 9:39 AM
Rhannu
Darllen 7 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth oedd yn y blog yma ddoe (23.3.20).

 Prif negeseuon heddiw:

  • Arhoswch adref. Dim ond ar gyfer dibenion cyfyngedig iawn fel yr amlinellwyd gan y Prif Weinidog neithiwr y gallwch chi adael eich cartref.
  • Os byddwch chi’n cael llythyr sydd yn gofyn i chi hunan-ynysu am 12 wythnos am fod gennych gyflwr iechyd arall, a’ch bod angen ein cymorth, gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio’n galed i roi mesurau ar waith i’ch helpu chi.
  • Mae swyddfeydd ystadau tai yn cau.
  • Mae ein toiledau cyhoeddus yn cau.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr 
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Neithiwr, cyhoeddodd y Prif Weinidog fesurau newydd i helpu arafu lledaeniad Covid-19.

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth oedd yn y blog yma ddoe (23.3.20). Prif negeseuon heddiw:Ian Bancroft – Prif Weithredwr Mark Pritchard – Arweinydd y CyngorPobl sydd â chyflyrau iechyd presennolGwasanaethau allweddol yn unigMarchnadoedd a thoiledau cyhoeddusTenantiaid taiSwyddfeydd ystad Gwaith atgyweirio mewn argyfwng Canolfannau ailgylchuNodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Dim ond ar gyfer y rhesymau cyfyngedig iawn canlynol y gallwch adael eich cartref:

  • Siopa ar gyfer anghenion sylfaenol, mor anaml â phosibl.
  • Un ffurf o ymarfer corff y dydd – er enghraifft mynd i redeg, mynd am dro neu feicio – ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd.
  • Unrhyw angen meddygol, i roi gofal neu helpu unigolyn diamddiffyn.
  • Teithio i’r gwaith ac yn ôl, ond dim ond pan fo hyn yn gwbl angenrheidiol, ac os nad oes modd gweithio o gartref.

Mae’n hanfodol fod pawb ohonom yn gwneud ein rhan yn Wrecsam.

Mae angen i bawb ohonom ddilyn y cyfarwyddiadau yma os ydym ni am reoli lledaeniad y feirws, ac atal y GIG rhag cael ei gorlethu.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Drwy aros ar wahân, mae pawb ohonom yn gwneud ein rhan. Rydym ni’n cydweithio ac yn ceisio cadw Wrecsam mor ddiogel â phosibl.

Felly gadewch i ni wneud y peth cywir a chofiwch y neges. Aros adref. Diogelu’r GIG. Achub bywydau.

Rydym ni wedi rhoi’r wybodaeth ganlynol at ei gilydd i’ch helpu i ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r cyngor.

Pobl sydd â chyflyrau iechyd presennol

Mae’r Llywodraeth yn anfon llythyrau at bobl ar draws y DU sydd â chyflyrau iechyd presennol sydd yn golygu eu bod yn fwy diamddiffyn i Covid-19.

Bydd y llythyrau hyn yn cynghori pobl i aros gartref ac osgoi unrhyw gyswllt wyneb i wyneb am o leiaf 12 wythnos.

Os byddwch chi’n cael un o’r llythyrau yma ac os nad oes gennych unrhyw ffrindiau, perthnasu neu gymdogion a fydd yn gallu cyflenwi bwyd a meddyginiaeth i chi, neu os na allwch chi archebu bwyd ar-lein, bydd y llythyr yn eich hysbysu i gysylltu â ni gan ddefnyddio rhif ffôn a gaiff ei ddarparu.

Os ydych chi angen i ni eich ffonio, gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio’n galed gyda phartneriaid i roi mesurau ar waith a fydd yn ein galluogi i’ch helpu chi.

Gwasanaethau allweddol yn unig

O heddiw ymlaen, dim ond gwasanaethau allweddol y Cyngor rydym ni’n eu darparu. Dyma’r pethau rydym wedi’u nodi sydd yn gwbl allweddol i’n cymunedau ac i redeg y cyngor.

Maent yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, cyngor ar fudd-daliadau tai, llety gwarchod, ysgolion (sydd ar agor i blant gweithwyr allweddol a phlant diamddiffyn yn unig ar hyn o bryd), gwagio biniau, digartrefedd a phethau eraill y mae pobl yn dibynnu arnynt.

Bydd y feirws yn parhau i effeithio ar ein gweithlu, ond rydym ni’n gwneud trefniadau i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Marchnadoedd a thoiledau cyhoeddus

Mae llawer o stondinwyr yn Nhŷ Pawb, Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol wedi penderfynu rhoi’r gorau i fasnachu am y tro, ac roedd hi’n amlwg gan y Llywodraeth neithiwr y dylai pob siop dianghenraid gau.

Bydd toiledau cyhoeddus dan reolaeth y cyngor yn cau heddiw hefyd.

Tenantiaid tai

Swyddfeydd ystad

Mae swyddfeydd ystadau bellach wedi cau, yn cynnwys ardaloedd y dderbynfa lle roedd y ciosgau a’r ffonau am ddim ar gael.

Os oes gennych ymholiad tai AR FRYS, cysylltwch â’n tîm tai ar 01978 298993.

Mae ein timau tai yn ddiolchgar am eich cefnogaeth barhaus a’ch cydweithrediad yng nghanol y sefyllfa anodd yma.

Gwaith atgyweirio mewn argyfwng

Dim ond os oes gennych chi argyfwng y dylech chi ffonio’r tîm atgyweiriadau tai (01978 298993).

Gallwch adrodd unrhyw waith atgyweirio nad ydynt yn rhai brys trwy Fy Nhŷ Cyngor neu drwy e-bostio housingrepairs@wrexham.gov.uk

Canolfannau ailgylchu

Fe wyddom fod cynghorau eraill wedi penderfynu cau eu canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Er budd preswylwyr Wrecsam rydym ni’n parhau i ddarparu’r gwasanaeth yma, ond ar sail gyfyngedig.

O ddydd Iau 26 Mawrth:

  • Bydd Bryn Lane (ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam) ar agor bob dydd (8am-8pm).
  • Ar ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn, bydd Brymbo ar agor (9am-6pm) a bydd Plas Madoc ar gau.
  • Ar ddydd Sul, dydd Llun a dydd Mawrth, bydd Plas Madoc ar agor (9am-6pm) a bydd Brymbo ar gau.

Bydd rheolau mynediad cyfyngedig ar waith (dim ond pum defnyddiwr ar y tro). Bydd hyn yn cael ei reoli ar bob safle a bydd disgwyl i bob defnyddiwr gadw pellter cymdeithasol.

Byddwn yn monitro defnydd a gweithrediadau’n barhaus, ac yn gwneud newidiadau pellach fel y bo angen.

Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl ei wneud yn cael eu darparu:

  • Mewn datganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (yn cynnwys y Prif Weinidog).
  • Mewn briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Fe allwch chi gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn annog pobl i gofrestru.

Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym iawn, felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth fel y bo angen ac fel y bo’n briodol.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid 19 Covid-19 (Coronafirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 23.3.20
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 25.3.20

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Waste Collections
Y cyngor

Casgliadau biniau ddydd Gwener, Gorffennaf 11

Gorffennaf 9, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English