Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 28.04.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 28.04.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 28.04.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/04/30 at 2:44 PM
Rhannu
Darllen 8 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn rhoi diweddariad ar y wybodaeth a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Gwener (24.4.20).

Negeseuon allweddol heddiw

• Fe hoffem ni ddiolch o waelod calon i bawb sy’n gweithio ar y rheng flaen yn ystod yr argyfwng hwn.
• Mae canllawiau newydd yn golygu y gallwch chi bellach ymweld â’r ardd gofio ym Mhentrebychan i ddangos parch i anwyliaid.
• Os yw eich plant yn derbyn prydau ysgol am ddim ac nad ydych chi wedi cofrestru eto, gofynnwn i chi gofrestru ar ein cynllun taliadau uniongyrchol newydd erbyn dydd Gwener, 1 Mai.

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn rhoi diweddariad ar y wybodaeth a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Gwener (24.4.20).Negeseuon allweddol heddiwIan Bancroft – Prif WeithredwrMark Pritchard – Arweinydd y CyngorDiolch i weithwyr ar y rheng flaenMunud o dawelwchYr amlosgfa – gardd gofio’n ailagorPrydau ysgol am ddimNodyn atgoffa – ydych chi wedi cofrestru ar gyfer ein cynllun taliadau uniongyrchol newydd?Nodyn atgoffa – lorïau binNodyn atgoffa – ydych chi’n gymwys i gael cymorth i’ch busnes?Nodyn atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Diolch i weithwyr ar y rheng flaen

Mae pobl wedi bod yn dod o hyd i bob math o ffyrdd i ddiolch i weithwyr ar y rheng flaen dros yr wythnosau diwethaf.

O godi arian hyd at ysgrifennu negeseuon ‘diolch’ ar y pafin tu allan i’w cartrefi mewn sialc.

Mae ‘clap’ wythnosol i ofalwyr, sydd i’w chlywed ar draws cymunedau Wrecsam pob nos Iau, a negeseuon twymgalon o gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Rydyn ni’n gwneud hyn gan ein bod yn gwybod bod pobl mewn pob math o swyddi sy’n mynd yr ail filltir, ddydd ar ôl dydd, i helpu i’n cadw ni’n ddiogel a darparu’r pethau rydym ni eu hangen i ni.

Gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal, gweithwyr archfarchnadoedd, swyddogion yr heddlu a’r gwasanaeth tân, criwiau ambiwlans a llawer o bobl eraill mewn swyddi allweddol.

Mae ein timau gwastraff ni hefyd, sydd wedi’u cyffwrdd gan yr arwyddion ‘diolch’ mae nifer o’n trigolion wedi’u gosod ar eu biniau a’u giatiau, a staff ysgolion, gweithwyr cymdeithasol a llawer o weithwyr eraill y cyngor sydd ar y rheng flaen yn gwneud gwaith arbennig.

Mae dewrder, gwytnwch a charedigrwydd anhygoel pobl sy’n gweithio yn y swyddi hyn wedi gwneud i ni deimlo’n werthfawrogol, yn ddiolchgar… efallai hyd yn oed fel nad oes dim y gallwn ei wneud, wrth i ni sylweddoli cymaint o gyfraniad maent yn ei wneud i’n byd ni ar hyn o bryd a chymaint o wahaniaeth maent yn ei wneud i’n bywydau.

Efallai mai’r peth gorau y gallwn ni ei wneud ar hyn o bryd – ac efallai yr unig beth y gallwn ei wneud – yw dal i ddweud ‘diolch’. Eto ac eto.

Felly ar ran Cyngor Wrecsam – a Wrecsam i gyd – diolch i bawb sy’n gweithio ar y rheng flaen.

Rydych chi’n anhygoel.

Munud o dawelwch

Bydd munud o dawelwch heddiw am 11am i gofio am y gweithwyr allweddol sydd wedi marw oherwydd Covid-19.

Cymerwch ran os gallwch chi.

Yr amlosgfa – gardd gofio’n ailagor

Mae canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu i ni lacio’r cyfyngiadau yn ein hamlosgfa.

Gall pobl bellach ymweld â’r ardd gofio ym Mhentrebychan, a oedd ar gau yn flaenorol.

Mae newidiadau i’r ddeddfwriaeth bellach yn caniatáu i bobl ymweld â mynwentydd a gerddi cofio i ddangos parch i anwyliaid.

Rydyn ni’n gwybod bod cau’r safle wedi bod yn anodd i nifer o bobl dros yr wythnosau diwethaf ac y byddant yn croesawu’r newyddion hwn.

Bydd ein giatiau ar agor ar yr amseroedd arferol.

Mae ein mynwentydd yn Wrecsam a Phandy’n dal i fod ar agor.

Gofynnwn i chi gadw pellter cymdeithasol wrth i chi ymweld â’r amlosgfa neu’r mynwentydd.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Prydau ysgol am ddim

Nodyn atgoffa – ydych chi wedi cofrestru ar gyfer ein cynllun taliadau uniongyrchol newydd?

Ydi eich plant chi’n derbyn prydau ysgol am ddim?

Fe fyddwn ni’n cyflwyno system newydd ddydd Llun, 4 Mai yn rhan o’n hymateb parhaus i Covid-19.

Bydd y system yn golygu bod arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc, a gallwch chi ddefnyddio hwn wedyn i brynu bwyd i’ch plant.

Bydd hyn yn gwneud pethau’n haws i rieni, gan leihau’r angen am deithio i fannau casglu i dderbyn y pecynnau cinio parod rydyn ni’n eu darparu ar hyn o bryd.

Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un fod ar ei golled, felly os nad ydych chi wedi gwneud cais yn barod, cofiwch gofrestru trwy wefan y Cyngor erbyn dydd Gwener, 1 Mai (bydd angen i chi ddarparu eich manylion banc).

Fe gewch chi daliad misol gwerth £19.50 yr wythnos i bob plentyn cymwys yn eich teulu.

Sylwch, os yw eich plant yn dal i fynd i’r ysgol (gan eich bod chi’n weithiwr allweddol neu eu bod nhw’n agored i niwed) y bydd angen i chi ddefnyddio’r arian i dalu am eu prydau ysgol, neu i brynu bwyd er mwyn darparu pecyn cinio ar eu cyfer.

COFRESTRWCH RŴAN

Gallwch barhau i gasglu pecynnau cinio parod o’n canolfannau dosbarthu tan ddydd Gwener, 1 Mai.

Ond o ddydd Llun, 4 Mai ymlaen, bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar y system taliadau uniongyrchol newydd fel nad ydych chi’n colli taliadau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch neges e-bost at freeschoolmeals@wrexham.gov.uk

Nodyn atgoffa – lorïau bin

Ni fydd unrhyw un eisiau bod ar fai nad yw biniau eu stryd gyfan yn cael eu gwagio, felly, os ydych chi’n parcio’ch car ar y ffordd, gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod digon o le i’n lorïau bin allu mynd heibio.

Darllenwch yr erthygl ddiweddar gennym ni.

Nodyn atgoffa – ydych chi’n gymwys i gael cymorth i’ch busnes?

Rydyn ni eisoes wedi talu mwy na £17.5 miliwn i 1,473 o fusnesau yn Wrecsam yn rhan o’r cymorth llacio ardrethi busnes a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Er ein bod ni’n dal i dderbyn ceisiadau bob dydd, rydyn ni’n annog unrhyw un sydd heb wneud cais eto i wirio a yw eu busnes yn gymwys ac, os yw, i gyflwyno cais ar-lein. 

Os ydych chi’n gwneud cais, gwiriwch y manylion rydych chi’n eu rhoi’n ofalus iawn – yn enwedig rhifau cyfrifon banc a chodau didoli – gan y gallai manylion anghywir arwain at oedi cyn cael taliadau.

Nodyn atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl wneud yn ei gylch yn cael ei darparu trwy:

• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth).
• Sesiynau briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Rhannu
Erthygl flaenorol Ap newydd wedi ei lansio i dracio ac olrhain y coronafeirws Ap newydd wedi ei lansio i dracio ac olrhain y coronafeirws
Erthygl nesaf Digital Connectivity Ydych chi’n cael trafferth gyda chysylltedd digidol? Hoffem glywed gennych chi……

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
Waste Collections
Y cyngor

Casgliadau biniau ddydd Gwener, Gorffennaf 11

Gorffennaf 9, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English