Mae’r nodyn hwn yn rhoi diweddariad ar yr wybodaeth a bostiwyd yn y blog hwn ar 7.8.20
Negeseuon allweddol yr wythnos hon
- Anogir busnesau a chwsmeriaid i gadw at y rheolau a helpu i gadw Wrecsam yn ddiogel.
- Mae rhannau o’r Stryd Fawr yn Wrecsam yn awr ar gau i draffig ar ôl 6pm i gefnogi economi’r nos
- Ail-agorodd Freedom Leisure a Chyngor Wrecsam bedair o’u canolfannau hamdden heddiw.
- Cofiwch mai dim ond un person ddylai ddod allan o’r cerbyd pan fyddwch yn mynd i’n canolfannau ailgylchu
Rhag ofn eich bod wedi eu methu….
Mae nodyn briffio heddiw yn grynodeb o gyhoeddiadau a newidiadau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf….
Rydym ar eich ochr chi ……ond plîs cadwch at y rheolau
Camau wedi’u cymryd yn erbyn bar ynghanol y dref wrth i fusnesau a chwsmeriaid gael eu hannog i gadw at y rheolau a chadw Wrecsam yn ddiogel…
Fel cyngor rydym yn gwneud popeth bosibl i gefnogi busnesau lleol yn ystod yr argyfwng Covid-19.
Mae’n wych gallu dweud bod y mwyafrif helaeth yn rheoli’r risgiau’n dda ac yn cadw staff a chwsmeriaid mor ddiogel â phosibl.
Fodd bynnag mae arnom ddyletswydd hefyd i ymyrryd pan fydd busnesau’n rhoi eu staff, cwsmeriaid a Wrecsam i gyd mewn perygl drwy fethu a chyflwyno mesurau diogelwch i rwystro lledaeniad Covid-19.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Newidiadau yn y Stryd Fawr er mwyn cefnogi economi’r nos
O ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 6pm a 6am bydd rhannau o’r Stryd Fawr yn Wrecsam yn cau i gerbydau er mwyn cefnogi economi’r nos.
Bydd y stryd ar gau o’r Wynnstay hyd at yr Old No 7 Bar and Grill.
Mae pedair o’n canolfannau hamdden yn ailagor heddiw
Ail-agorodd Freedom Leisure a Chyngor Wrecsam bedair o’u canolfannau hamdden heddiw (dydd Llun, Awst 17).
Yn dilyn hyn bydd ail gam ym mis Medi pan fydd gweddill ein cyfleusterau hamdden yn ail-agor i’r cyhoedd.
Cofiwch gadw at y rheol un person yn ein canolfannau ailgylchu
Os ydych yn mynd i un o’n canolfannau ailgylchu cofiwch mai dim ond un person sy’n cael dod allan o’r cerbyd ar y safle.
Ers i ni ailagor ein canolfannau ailgylchu rydym wedi gorfod rhoi rheolau llym ar waith i gadw pawb yn ddiogel.
Gwarchod yng Nghymru yn stopio am y tro
O heddiw, ni fydd yn rhaid i bobl yng Nghymru warchod eu hunain am y tro.
Mae hyn yn golygu y gall pobl yn y ‘grŵp gwarchod’ fynd i’r ysgol neu’r gwaith neu fynd i siopa ond dylent barhau i gymryd camau i ddiogelu eu hunain.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru…
Gan fod achosion o coronafeirws yn parhau i fod yn isel, mae'n fwy diogel nawr i'r rhai ohonoch sydd wedi bod yn gwarchod i fynd allan i siopa.
Rydym yn gwybod bod hwn yn gam mawr i lawer ohonoch, felly dyma gyngor gan @CMOWales ???? (gan gynnwys pobl ifanc ciwt!) ????#HoliDrFrank pic.twitter.com/kD85kheU49
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) August 14, 2020
Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
YMGEISIWCH RŴAN