Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolfannau Hamdden ar draws Wrecsam yn paratoi i ailagor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Canolfannau Hamdden ar draws Wrecsam yn paratoi i ailagor
Y cyngor

Canolfannau Hamdden ar draws Wrecsam yn paratoi i ailagor

Diweddarwyd diwethaf: Awst 12, 2020 8:53 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Leisure Centres
RHANNU

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, mae Canolfannau Hamdden ar draws Wrecsam yn paratoi i agor eu drysau unwaith eto fel rhan o ailagor gwasanaethau fesul cam.

Mae Freedom Leisure a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn falch o gyhoeddi y bydd pedair o’u canolfannau yn agor ddydd Llun, 17 Awst, gydag ailgam y cyfnod ailagor yn gweld gweddill cyfleusterau ar draws y rhanbarth yn agor i’r cyhoedd ym mis Medi.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Mae Freedom Leisure yn falch o allu eich croesawu yn ôl i’n cyfleusterau hamdden cymunedol yn Wrecsam ac mae’r timau staff yn y canolfannau yn gyffrous i fod yn ôl. Gallwch ddisgwyl yr un lefelau uchel o wasanaeth yr ydych bob amser wedi’i gael – allan nhw ddim aros i weld pawb!

Mae Freedom Leisure sy’n rhedeg y canolfannau ar ran y Cyngor wedi cyflwyno nifer o fesurau diogelwch yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth i helpu cwsmeriaid ddychwelyd i weithgareddau mewn amgylchedd diogel a glân.

Bydd holl weithgareddau, gan gynnwys defnyddio’r gampfa, y pwll nofio a dosbarthiadau ffitrwydd angen eu harchebu ymlaen llaw gan y bydd y nifer o bobl a ganiateir yn y cyfleuster yn gyfyngedig at ddibenion diogelwch a Phrofi ac Olrhain y GIG.

Mae’r safleoedd sy’n agor ddydd Llun, 17 Awst yn cynnwys:

Byd Dŵr Wrecsam – https://www.facebook.com/WrexhamWaterworld/

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun – https://www.facebook.com/chirkleisurecentre/

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans – https://www.facebook.com/GwynEvansLAC/

Stadiwm Queensway – https://en-gb.facebook.com/QueenswayStadium/

Bydd mynediad ar gael i’r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd, pyllau nofio, lleiniau awyr agored a thraciau athletig yn y cyfleusterau hyn o ddydd Llun, 17 Awst. 

Ym mis Medi, bydd y canolfannau hamdden a leolir yn yr ysgolion uwchradd yn Darland, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Rhiwabon, Ysgol Clywedog a Rhosnesni hefyd yn ailagor..

Dywedodd y Cyngor, John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi:

“Rydym yn croesawu’r newyddion y bydd y cyfleusterau hyn yn ailagor i’r cyhoedd yn ddiogel yn fuan iawn gan ein bod yn gwybod bod llawer o breswylwyr wedi colli’r holl weithgareddau a gynigir.  Cofiwch y bydd yn rhaid i chi archebu ymlaen llaw cyn mynd i sicrhau bod staff ac ymwelwyr yn aros yn ddiogel.”

Ychwanegodd Ivan Horsfall-Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr, Freedom Leisure:

“Mae Freedom Leisure yn falch o ailagor Byd Dŵr Wrecsam, Canolfan Hamdden a Gweithgaredd y Waun, Stadiwm Queensway a Chanolfan Hamdden a Gweithgaredd Gwyn Evans ddydd Llun 17 Awst.  Mae ein timau yn gweithio’n galed i sicrhau bod y canolfannau’n barod ac yn croesawu’r gymuned leol yn ôl, ac rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn fuan iawn.”

Bydd angen archebu pob gweithgaredd ymlaen llaw drwy gysylltu â’ch canolfan Freedom Leisure lleol yn uniongyrchol.  Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys arweiniad ar beth i’w ddisgwyl wrth ymweld â chanolfan a chwestiynau a ofynnir yn aml, ewch i: https://www.freedom-leisure.co.uk/welsh/what-to-expect-when-your-local-centre-opens/

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol g Rhybudd: Cael gwared ar danciau boteli nwy
Erthygl nesaf Wrexham AFC Arwyddo penawdau’r telerau gyda CPD Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English