Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Os ydych chi’n dilyn pêl-droed yn Wrecsam, byddwch yn ymwybodol bod CPD Wrecsam wedi bod yn hyfforddi ar dir Nine Acre ym Maes-y-dre ers haf 2017.
“Yn ystod eu hamser yn hyfforddi ar gae Nine Acre, rydyn ni yng Nghyngor Wrecsam wedi gweithio gyda nhw i gefnogi cynnig ar gyfer cae hyfforddi newydd.
“Rydyn ni wedi’u helpu i gwblhau’r cynnig hwn am leoliad hyfforddi pwrpasol, hirdymor a fydd yn sicrhau bod ganddynt safle sy’n addas ar gyfer tîm pêl-droed proffesiynol am flynyddoedd i ddod – a chaniatáu i ni hefyd barhau â chynlluniau ar gyfer ysgol yng nghanol y dref.
“Gan ddibynnu ar gael caniatâd ynghlwm ag amodau a gofynion cyfreithiol sydd ar y safle, y gobaith yw y bydd y clwb yn dechrau hyfforddi ar dir hen ysgol y Llwyni yn 2020.
“Bydd clirio Nine Acre yn caniatáu i ni barhau â chynlluniau ar gyfer ysgol gynradd newydd yng nghanol y dref, a fyddai gynt wedi’i lleoli un ai ar neu’n agos at safle hen ysgol y Llwyni.
“Er nad oes cynlluniau i ailddatblygu ysgol restredig y Llwyni, bydd yr adeilad yn dal yn ased i Adran Addysg y Cyngor, yn lle sydd dros ben i’r gofyn.
“Mae’r Cyngor hwn wastad wedi pwysleisio ei uchelgais o greu ysgol gynradd newydd yng nghanol y dref ac roedd y nod hwnnw’n ganolog i’n trafodaethau am gynlluniau ar gyfer hen ysgol y Llwyni.
“Rydyn ni wedi gweithio’n agos iawn gyda’r clwb i asesu’n fras pa mor addas yw safle’r Llwyni fel cae hyfforddi a hoffwn ddiolch iddyn nhw am gydweithredu hefo ni drwy gydol y broses.
“Mae pêl-droed – a CPD Wrecsam yn enwedig – yn rhan mor bwysig o fywyd bob dydd yn Wrecsam ac mae’r gwaith hwn yn nodi cychwyn llawer mwy o gydweithio rhyngom ni a’r clwb.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Mae Cyngor Wrecsam yn falch iawn o fod yn gweithio gyda CPD Wrecsam i ddarparu safle hyfforddi newydd iddyn nhw ger hen ysgol y Llwyni a gadael Nine Acre ar gael i greu ysgol ar gyfer yr 21ain ganrif yno.
Dywedodd Spencer Harris, Cyfarwyddwr CPD Wrecsam: “Creu lle pwrpasol i hyfforddi gyda dau gae newydd sbon sy’n addas ar gyfer clwb pêl-droed proffesiynol ydi’r cam nesaf i greu’r isadeiledd sydd ei angen i lwyddo yn y dyfodol. Rydyn ni wedi bod yn gweithio i ffurfio partneriaeth gadarn gyda Chyngor Wrecsam ac mae potensial enfawr i ni ar safle’r Llwyni. Mae’n agos at y Cae Ras a chanol y dref, sy’n golygu y gall CPD Wrecsam aros yng nghalon y dref.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD