Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen GWYLIWCH: Myfyrwyr yn cael cipolwg ar gyfleusterau newydd mewn estyniad gwerth £1.5 miliwn i’w hysgol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > GWYLIWCH: Myfyrwyr yn cael cipolwg ar gyfleusterau newydd mewn estyniad gwerth £1.5 miliwn i’w hysgol
Busnes ac addysgFideoY cyngor

GWYLIWCH: Myfyrwyr yn cael cipolwg ar gyfleusterau newydd mewn estyniad gwerth £1.5 miliwn i’w hysgol

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 21, 2018 2:39 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
GWYLIWCH: Myfyrwyr yn cael cipolwg ar gyfleusterau newydd mewn estyniad gwerth £1.5 miliwn i’w hysgol
RHANNU

Cafodd disgyblion chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y cyfle i fwrw golwg dros y cynlluniau ar gyfer eu bloc newydd – ac hyd yn oed y cyfle i edrych o gwmpas y safle cyn iddo agor y flwyddyn nesaf.

Mae gwaith yn parhau ar estyniad gwerth £1.5 miliwn yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, a fydd yn darparu cartref newydd i chweched dosbarth yr ysgol.

Aeth y contractwyr, Read Construction, ati i weithio ar y bloc newydd yn ôl ym mis Gorffennaf, ac mae mwyafrif y gwaith adeiladu yn mynd rhagddo erbyn hyn.

WEDI METHU CASGLIAD BIN? GADEWCH I NI WYBOD.

Yn gynharach yr wythnos hon, cafodd myfyrwyr y cyfle i edrych ar rai o’r dyluniadau cynllun ar gyfer y bloc newydd, ac hyd yn oed y cyfle i edrych o amgylch yr adeilad.

Yn ogystal â darparu rhagor o ofod i’r chweched dosbarth, bydd y safle newydd hefyd yn cynnwys nifer o nodweddion newydd gan gynnwys cyfleuster TG a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr gysylltu eu dyfeisiau – yn gyfrifiaduron ysgol a dyfeisiau personol – i amryfal sgriniau tra’n astudio neu adolygu.

Bydd yr adeilad newydd yn caniatáu i ni gynyddu cynhwysedd yr ysgol ar lefel uwchradd a sicrhau dyfodol addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam.

Caiff y gwaith ei ariannu o Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif Band A Llywodraeth Cymru, a chyngor Wrecsam.

Mae’r gwaith wedi’i raglennu i ddod i ben yn 2019, gyda’r disgwyl y bydd yr estyniad newydd yn cael ei drosglwyddo ym mis Ebrill.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae’r prosiect hwn yn rhan o’n ymrwymiad parhaus i wella’r amgylchedd addysgol yn ein hysgolion ac rwyf yn y hyderus y bydd, unwaith y caiff ei agor, yn cael ei werthfawrogi’n arw gan fyfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Morgan Llwyd.

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth parhaus tuag at ysgolion Wrecsam, a’n Swyddogion Addysg am eu gwaith caled yn darparu mwy o brosiectau ysgolion nac a fwriadwyd yn wreiddiol, a hynny heb gyllid ychwanegol.”

Dywedodd Aled Roberts, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd: “Roedd hi’n wych i gael cipolwg ar y bloc Chweched Dosbarth newydd gyda rhai o’n myfyrwyr y bore yma ac i weld sut y mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.

“Mae ein myfyrwyr yn helpu i siapio’r cynllun ac fe ddylai’r cyfleusterau sylweddol a fydd ar gael unwaith y bydd y bloc ar agor alluogi i’n myfyrwyr chweched dosbarth gymryd mantais llawn o hynny, ac adeiladu ar eu cyraeddiadau TGAU yn Ysgol Morgan Llwyd.”

Meddai Richard Heaton, Rheolwr Gyfarwyddwr Read: “Rydym wedi’n cyffroi i fod yn darparu’r amgylchedd dysgu modern hwn ar y cyd â Chyngor Wrecsam a’n tîm dylunio. Trwy gydol y cyfnod adeiladu rydym wedi bod yn ymgysylltu â’r ysgol a’r gymuned er mwyn cynyddu gwerth y cynllun.”

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-525d4591-1e82-4383-921f-0eaadd6c7ff0/AF-Stage-d4b0718f-3b6a-4103-a4b7-3ae96da19278/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol CPD Wrecsam yn cyflwyno cynnig am gae hyfforddi newydd y Llwyni i Gyngor Wrecsam CPD Wrecsam yn cyflwyno cynnig am gae hyfforddi newydd y Llwyni i Gyngor Wrecsam
Erthygl nesaf Adroddiad yn nodi gwaith caled staff a disgyblion at ysgol gynradd leol Adroddiad yn nodi gwaith caled staff a disgyblion at ysgol gynradd leol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English