A oes arnoch chi angen gwneud cais am gredyd cynhwysol, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?
A ydych chi’n awyddus i elwa o wasanaeth chwilio am waith y credyd cynhwysol, ond ddim yn siŵr sut i wneud hyn?
A ydych chi’n poeni nad oes gennych chi’r sgiliau cyfrifiadurol sydd eu hangen ar gyfer y byd gwaith?
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae’r atebion i’r cwestiynau hyn i gyd ar gael gan eich gwasanaeth llyfrgell! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw casglu eich cerdyn llyfrgell ac ymweld â’r adran sgiliau cynhwysol ar wefan llyfrgelloedd Wrecsam.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wella eich sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol, paratoi ar gyfer cyfweliad, ysgrifennu CV a llawer mwy. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim a gallwch bori drwy’r safle a dysgu’r sgiliau yn y modiwlau.
Mae nifer fawr o wasanaethau y gallwch eu defnyddio o’ch cartref ar gael ar y dudalen llyfrgelloedd, felly ewch i gael golwg arnynt!
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19