Mae hwn yn gyfle gwych!
Yn dosbarth meistr ddiweddaraf Tŷ Pawb, sy’n addas ar gyfer pob gallu, byddwch chi’n gallu creu crogdlws gyda chyfarwyddyd arbenigol gan Jeweler Karen Williams!
Yn dylanwadu gwaith Karen mae ffurfiau naturiol a geir ar hyd lan y môr. Byddwch yn defnyddio ffynonellau tebyg i ysbrydoli eich crogdlws ac i archwilio’r broses o wneud marciau mewn metel.
Mae croeso i chi ddod â’ch trysor eich hun i’r dosbarth – casys hadau, dail, pethau wedi’u canfod ar y traeth neu ddefnyddio rhywbeth o’r casgliad.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
I ddechrau byddwch yn arbrofi gan ddefnyddio copr ac archwilio amrywiaeth o dechnegau gwead. Yna byddwch yn datblygu eich cynllun mewn arian; gyda llawer o forthwylio, ac yna llifio ar y fainc a sodro arian i gwblhau eich crogdlws.
Sut i gymryd rhan
- Cynhelir dosbarth meistr gemwaith undydd ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf, 10.30am-4.30pm.
- Y gost yw £60 (mae pris consesiwn o £45 ar gael i fyfyrwyr a phobl dros 60 oed).
- Addas ar gyfer dechreuwyr.
- Archebu yn hanfodol! Cysylltwch â Tŷ Pawb ar 01978 292093 neu e-bostiwch typawb@wrexham.gov.uk
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
Each i wefan Tŷ Pawb yma.
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB