Dim ond pythefnos o wyliau haf yr ysgol sydd ar ôl, ac os ydych yn brin o syniadau i ddiddanu’r plant, darllenwch y rhestr isod am bethau i’w gwneud yr wythnos nesaf.
Awst 21, 10.30am-12.30pm Creu a Chael Coronau yn Amgueddfa Wrecsam
Sesiwn grefft i’r teulu ar gyfer plant o bob oed. Nid oes angen cadw lle.
£1.50
Awst 22, 1.30-3.30pm Helfa Drysor yr Haf i’r Teulu yn Nyfroedd Alun Hwyl i’r teulu o amgylch y parc, nid oes angen cadw lle.
£2.60 y grŵp
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Awst 22, 1-3pm Sesiynau Chwaraeon a gemau ym Mharc Bellevue Cyfarfod wrth safle’r seindorf ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hwyliog.
Ar gyfer plant 8-14 oed. Ffoniwch 01978 298997 i gael rhagor o wybodaeth.
AM DDIM
Awst 23, 3-4pm Y Dogs Trust yn Llyfrgell Llai Dewch i ymweld â’r Dog’s Trust ac ymunwch mewn gweithgaredd yn gysylltiedig â Sialens Ddarllen yr Haf. Anfonwch e-bost at llay.library@wrexham i gadw lle.
AM DDIM
Awst 24, 3-4pm
Dydd Gwener o Hwyl yn Llyfrgell Cefn Mawr
Crefftau syml ar gyfer dwylo bychain (i rai o dan 8 oed)
50c
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION