Fe fydd morwyr o HMS Dragon yn ymweld â Wrecsam i helpu i godi arian ar gyfer Apêl y Pabi yn Stok Cae Ras a chymryd rhan yng ngorymdaith Dydd y Cofio swyddogol y ddinas.
Dyma fydd yr ail waith y bydd personél o Long Ddistryw Math 45 fodern yn ymweld â Wrecsam ers i’r ddinas gael ei chysylltu gyda’r Llynges Frenhinol yn ôl ym mis Ebrill.
Fe fydd rhywfaint o’r criw yng ngêm Wrecsam vs Mansfield Town ddydd Sadwrn, 9 Tachwedd i helpu i gasglu ar gyfer to help Apêl y Pabi eleni – yr elusen sydd yn rhoi cefnogaeth hollbwysig i gyn filwyr a’u teuluoedd.
Sul y Cofio
Yna, ddydd Sul 10 Tachwedd, bydd y morwyr yn cymryd rhan yng ngorymdaith swyddogol Sul y Cofio drwy’r ddinas, cyn mynychu’r gwasanaeth coffa yn y Senotaff ym Modhyfryd.
Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Wrecsam: “Mae Wrecsam yn ymfalchïo yn ei gysylltiadau cryf gyda’r Lluoedd Arfog, ac fe fydd hi’n anrhydedd enfawr i groesawu’r criw i’r ddinas eto.
“Rydym ni’n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cefnogi Apêl y Pabi yn y gêm, ac yn dod allan i gefnogi’r orymdaith a’r gwasanaeth ar Sul y Cofio.”
Meddai fydd Pennaeth Milwrol HMS Dragon, Comander Iain Giffin, a fydd yn gosod torch yn y gwasanaeth ddydd Sul: “Mae hi’n anrhydedd ac yn bleser gan fy llongwyr a minnau o HMS Dragon ein bod wedi cael cynnig cymryd rhan yng ngorymdaith Sul y Cofio yn ninas Wrecsam am y tro cyntaf.
“Mae achlysuron fel hyn yn galluogi i ni ddangos ein cefnogaeth i Wrecsam er mwyn dod yn agosach at ein cymuned gysylltiedig, a phobl y ddinas.
“Rydym ni’n edrych ymlaen at ymuno â phawb yn anrhydeddu’r rhai sydd wedi aberthu eu bywydau a chofio’r rhai a wasanaethodd ac sydd yn gwasanaethu’r genedl, gartref a thramor.”
Fe fydd gorymdaith Dydd y Cofio yn gadael Barics Hightown am 10.30am ddydd Sul, 10 Tachwedd. Fe fydd y gwasanaeth yn dechrau yn y Senotaff ym Modhyfryd yn fuan ar ôl 11am.
Wrecsam yn nodi Penwythnos y Cofio gydag arddangosfa pabi yng Ngerddi Jiwbilî ac arddangosfa oleuadau yn Eglwys San Silyn
Ar Benwythnos y Cofio, bydd arddangosfa o gerfluniau pabi wedi’u creu gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain i’w gweld yng Ngerddi Jiwbilî drws nesaf i Lyfrgell Wrecsam.
Ochr yn ochr â’r arddangosfa, fe fydd Eglwys San Silyn yn cael ei goleuo nos Sadwrn a nos Sul (9 a 10 Tachwedd).
Mae’r arddangosfa pabi wedi cael ei threfnu’n ofalus i anrhydeddu’r rhai a fu’n gwasanaethu, a bydd goleuo Eglwys San Silyn yn deyrnged arbennig er cof amdanynt.
Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Wrecsam: “Mae Penwythnos y Cofio yn amser i ni gyd ddod ynghyd. Mae’r arddangosfa pabi a goleuadau’r Eglwys yn ein hatgoffa o ddewrder ac aberth gan gynifer.
Mae’r gymuned yn cael ei hannog i ymweld ag Arddangosfa Pabi Gerddi Jiwbilî ac Eglwys San Silyn dros y penwythnos i adlewyrchu ar yr achlysur pwysig.
Wrecsam yn Cofio – Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad 2024 – Newyddion Cyngor Wrecsam