Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Rydym yn ymroddedig i gefnogi ein gofalwyr maeth ar bob cam o’r ffordd”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > “Rydym yn ymroddedig i gefnogi ein gofalwyr maeth ar bob cam o’r ffordd”
Y cyngorArall

“Rydym yn ymroddedig i gefnogi ein gofalwyr maeth ar bob cam o’r ffordd”

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 8, 2024 2:02 pm
Rhannu
Darllen 8 funud
Foster Wales Wrexham supports its foster carers every step of the way
RHANNU

Gyda mwy na 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ar draws Cymru, mae’r angen am fwy o Ofalwyr Maethu yn cynyddu.

Yn Wrecsam, mae 222 o blant mewn gofal maeth ar hyn o bryd, ac mae gan bob un anghenion a dyheadau unigryw. O’r rhain, mae 49 yn cael gofal gan ofalwyr maeth awdurdod lleol, 78 gan ofalwyr cysylltiedig a 98 gan asiantaethau maethu annibynnol.

Er mwyn sicrhau bod modd i’r plant hyn aros yn agos at eu gwreiddiau, eu cymunedau a’u grwpiau ffrindiau, ein nod yw recriwtio un ar ddeg gofalwr maeth ychwanegol erbyn mis Ebrill 2025.

Ym mis Ionawr, lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 tîm maethu awdurdod lleol yng Nghymru ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.

Ymunodd Maethu Cymru Wrecsam â’r ymgyrch, ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth’, i rannu profiadau realistig o’r gymuned faethu i ymateb i rwystrau cyffredin i ymholiadau.

Mae rhai o’r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau am feini prawf a chred nad yw maethu’n cyd-fynd â ffyrdd penodol o fyw.

Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a’r ‘swigen gefnogaeth’ sy’n bodoli o amgylch gofalwyr maeth, i ddarparu’r canlynol i ddarpar ofalwyr:

1) Gwybodaeth a dealltwriaeth am rôl gweithiwr cymdeithasol, a sut gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.

2) Hyder a sicrwydd fod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar a rhagweithiol sy’n gweithio’n galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth.

3) Cymhelliant i ddechrau’r broses i fod yn ofalwr maeth trwy Awdurdod Lleol.

Mewn arolwg YouGov diweddar, dim ond 44% o ymatebwyr a ddywedodd fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu ac roedd bron i ddau o bob pump (39%) o oedolion a fu’n rhan o’r arolwg yn teimlo bod ymarferwyr yn cael pethau’n anghywir yn aml.

Dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol sy’n credu bod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu’n dda ar hyn o bryd.

“Fel gweithiwr cymdeithasol yn Wrecsam, rydw i’n gweld yr effaith fawr mae maethu’n ei chael ar fywydau plant yn uniongyrchol.

“Rydym yn ymrwymedig i gefnogi ein gofalwyr maeth ar bob cam o’r ffordd, gan eu helpu i feithrin amgylchedd cryf, gofalgar i bobl ifanc mewn angen.

“Gall maethu fod yn heriol, ond gyda’r gefnogaeth a’r arweiniad cywir, mae’n rhoi boddhad mawr.”

Ingrid, Uwch Weithiwr Cymdeithasol Goruchwylio, Maethu Cymru Wrecsam

Mae ymgyrch ddiweddaraf ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth’ wedi’i harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu er mwyn deall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well. Cafwyd 309 o ymatebion ac mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • Dywedodd 78% o weithwyr cymdeithasol a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod wedi mynd i’r proffesiwn er mwyn cefnogi a helpu teuluoedd
  • Dywedodd 18% o ofalwyr maeth fod rhagdybiaethau negyddol am weithwyr cymdeithasol yn deillio o sylw ar y newyddion
  • Dywedodd 29% o ofalwyr maeth eu bod yn credu mai ‘pobl â llwyth achosion trwm a llawer o waith papur’ oedd gweithiwr cymdeithasol, cyn cwrdd â nhw
  • Roedd 27% o’r gweithwyr cymdeithasol a gymerodd ran yn yr arolwg yn credu bod gan ddarpar ofalwyr ofn cael eu beirniadu gan weithwyr proffesiynol

Mae Ingrid yn Uwch Weithiwr Cymdeithasol Goruchwylio gyda Maethu Cymru Wrecsam ac mae hi wedi bod yn y swydd ers 16 mlynedd. Bu’n myfyrio am beth sy’n gwneud gofalwr maeth gwych a sut mae Maethu Cymru Wrecsam yn cefnogi gofalwyr maeth lleol.

Rydw i’n teimlo bod cymhelliant a gallu i roi eu hunain yn sefyllfa’r plentyn wrth wraidd pob gofalwr maeth, a’r gallu i weld y byd trwy eu llygaid nhw a rhoi ystyriaeth i brofiadau’r plentyn hwnnw.

Gall gofalwyr maeth sydd â’r ddawn hon ddarparu gofal unigol sy’n cefnogi’r plentyn i deimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am pwy ydyn nhw ac i symud ymlaen at ddyfodol iach.

Mae Maethu Cymru Wrecsam yn cefnogi Gofalwyr Maeth lleol trwy ddeall a gwerthfawrogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud a all gael effaith oes ar ddyfodol plant.

Maen nhw’n cydnabod yr heriau sy’n cyd-fynd â rôl gofalwyr maeth gan wneud eu gorau glas i roi amrywiaeth ddefnyddiol o gefnogaeth, cyfleoedd datblygu a chynhwysiant iddynt.

Yn yr ymchwil, amlygodd gofalwyr maeth bwysigrwydd perthnasoedd gweithio agos a pharhaus er mwyn cefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roedden nhw’n awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol a’r gefnogaeth rydych chi’n ei chael hefyd, gan dalu teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol:

Isod, clywn gan Lisa, sy’n maethu brawd a chwaer gyda’i gwraig Kate, a’u dau o blant…

“Rydym wedi bod yn maethu ers bron i 3.5 mlynedd ac yn ystod yr amser hwn, rydym wedi cael gweithwyr cymdeithasol gwych.

“Rydym wedi wynebu heriau ac amseroedd anodd, ond dim ond codi’r ffôn oedd rhaid, maen nhw’n eich cefnogi chi a’ch teulu gan wneud amser i chi o hyd, i roi cyngor, cefnogaeth, ateb cwestiynau neu i wrando a bod yno i chi.

“Nhw sy’n cadw’r gwasanaeth maethu gyda’i gilydd, fedra i ddim egluro faint maen nhw’n ei roi a byddem ni wedi bod ar goll hebddyn nhw.

“Maen nhw i gyd wedi dod i adnabod fy mhlant i gyd. Rydym ni’n edrych ymlaen at eu gweld nhw. Mae’r amser a’r ymdrech mae gweithwyr cymdeithasol goruchwylio yn eu rhoi i ffurfio perthynas gref gyda chi yn amhrisiadwy ac maen nhw’n dod yn ffrindiau ac yn bobl y gallwch chi ddibynnu arnyn nhw.”

Meddai’r Cynghorydd Robert Walsh – Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Plant a Theuluoedd:
“Fel Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, rwy’n falch o amlygu gwaith anhygoel ein cymuned o ofalwyr maeth a’r gefnogaeth amhrisiadwy mae ein gweithwyr cymdeithasol yn Wrecsam yn ei darparu.

“Gyda mwy na 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ar draws Cymru, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i annog mwy o unigolion i ystyried maethu. Mae ymgyrch ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth’ yn arddangos arbenigedd ac ymroddiad ein gweithwyr cymdeithasol, gan bwysleisio’r amgylchedd cefnogol maen nhw’n ei greu i ofalwyr maeth.

“Gyda’n gilydd, gallwn helpu i greu cartrefi cryf a gofalgar i blant mewn angen, gan wneud gwahaniaeth parhaus yn eu bywydau.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/

Rhannu
Erthygl flaenorol Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio
Erthygl nesaf Paddy McGuinness does Radio 2’s Ultra Endurance Cycle Challenge for BBC Children in Need Pob lwc, Paddy!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English