Mae Wythnos Croeso i dy Bleidlais 2023 yn ceisio dechrau sgwrs am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth, yn benodol gyda’r bobl ifanc o dy gwmpas, er mwyn i bawb deimlo’n ddigon hyderus i gymryd rhan.
Dyna pam mai’r thema eleni yw ‘ein democratiaeth’, gan nodi bod democratiaeth i bawb, ac yn digwydd o’n cwmpas ym mhobman.
Rydym yn annog ysgolion a grwpiau ieuenctid i gymryd rhan, ynghyd â phobl ifanc eu hunain er mwyn dysgu am bwysigrwydd eu pleidlais, er mwyn ei defnyddio pan ddaw’r amser!
Oeddet ti’n gwybod dy fod yn cael pleidleisio’n 16 oed os wyt yn byw yng Nghymru? Mae modd hefyd cofrestru i bleidleisio o 14 oed! Felly mae cymryd rhan mewn sgyrsiau am ddemocratiaeth, dysgu sut mae’n gweithio a sut mae dy bleidlais yn dylanwadu ar benderfyniadau am dy fywyd angen bod yn rhan bwysig o’n bywydau.
Gwylia’r fideo i ddysgu mwy am ddemocratiaeth yng Nghymru:
I ddysgu mwy am dy bleidlais, edrycha ar https://www.electoralcommission.org.uk/cy/croeso-i-dy-bleidlais
14 oed yn barod? Beth am dreulio ambell funud yn cofrestru i bleidleisio ar https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
#CroesoiDyBleidlais
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD