Siŵr ‘bod chi’n gofyn pwy da ni?
Mae rhywbeth yn deud wrthym ni fod yna am fod ychydig mwy o ddiddordeb yn Wrecsam dros yr wythnosau… a blynyddoedd nesa…felly i unrhyw un ohonoch sy newydd ddarganfod Wrecsam – “iawn/helo/hello/croeso/welcome”
Da ni am rannu ‘chydig o bethau o ddiddordeb amdanom ni, pethau efallai nad ydych wedi eu clywed o’r blaen.
I esbonio “Pwy ydan ni” yn well na fedrwn ni sgwennu yw’r bardd lleol Evrah Rose a fu’n cydweithio gyda beatbocsiwr Cymraeg Mr Phormula fel rhan o’n cais Dinas Diwylliant
Diwylliant Wrecsam: Yn hanesyddol tref marchnad gyda hanes diwydiannol cyfoethog, mae pêl droed, celf, yr Iaith Gymraeg, barddoniaeth, bwyd a cherddoriaeth yn chwarae rôl bwysig mewn creu hunaniaeth unigryw Wrecsam. Mae llawer o’r themâu hyn yn cyfeirio at Tŷ Pawb, hwb diwylliant Wrecsam ac un o’r amgueddfeydd ar y rhestr fer Amgueddfa’r flwyddyn 2022.
Yn hwyrach yn y flwyddyn Wrecsam fydd y lleoliad am Ŵyl Wal Goch – gŵyl ryngwladol sy’n dathlu diwylliant pêl droed. Hefyd bydd Theatr Cenedlaethol Cymru yn cynnal cynhyrchiad cywaith aml leoliad, rhyngweithiol a fu’n archwilio’r thema o ‘gartref.’ Mae’r gwaith ymchwil sydd wedi mynd i fewn i’r prosiect hon wedi bod yn digwydd tros y blynyddoedd diwethaf.
For @RefugeeWeek #ntwTEAM's #RefugeeCelebrationDay at @TyPawb with @RefugeeKindness people came together to share food, stories & arts, poetry & popcorn, speeches & songs! Thanks to @RangelNiloha Yasmine Latkowski, Rolando & Tony Star & @NatashaBorton . Video by @welshphotoguy ???? pic.twitter.com/sjjTwZrfmV
— Ellen Thomas (@EllenT_NTW) August 22, 2022
In June, we took over @VoiceboxWxm @TyPawb – we've been working with the myriad of communities who reside & thrive in this brilliant town. In November, it will culminate with an #ntwTEAM show by #Wrexham, for Wrexham, inspired by the theme of Home. Video by @welshphotoguy pic.twitter.com/R8rvfOG4Xg
— Ellen Thomas (@EllenT_NTW) August 8, 2022
Y digwyddiad diwylliannol mwyaf sy’n digwydd yn Wrecsam yw Focus Wales – gŵyl ryngwladol aml leoliad sy’n rhoi llwyfan y diwydiant cerddoriaeth i dalent gerddorol sy’n ymddangos ledled Cymru ar y cyd gyda thalent newydd o ardraws y byd. Yn gynharach yn y flwyddyn Cyhoeddwyd y bardd Ifor Ab Glyn (a oedd ar y pryd Bardd Cenedlaethol Cymru) cerdd a pherfformiwyd yn Gymraeg ynglŷn â’r ŵyl
Croeso: Mae gan Wrecsam hanes o fod yn le croesawus i wynebau a diwylliannau newydd. Mae yna dros 70 o ieithoedd yn cael ei siarad ledled Wrecsam a’r ieithoedd mwyaf poblogaidd sy’n cael ei siarad yw Cymraeg, Saesneg, Pwyleg a Phortiwgaleg (ond nid o angenrheidrwydd yn yr un drefn).
Mae Wrecsam wedi ei dynodi fel ‘dref o Noddfa ac yn ddiweddar buom yn gofyn i rai o’n thrigolion beth oeddent yn hoffi, a sut base’n nhw’n disgrifio Wrecsam.
Statws Dinas: Mae Wrecsam wedi ennill statws dinas yn ddiweddar.
Dinas Diwylliant: (yn wahanol i statws dinas) bu Sir Wrecsam yn ddiweddar yn cyrraedd rownd derfynol yn y gystadleuaeth teitl Dinas Diwylliant 2025.
Fel rhan o’r gystadleuaeth fe roddwyd baner enfawr ar y Kop yn y Cae Ras (Hwyrach ddaru chi ei weld)?
Ac roedd hyd yn oed tîm Pêl Droed Cymru’ yn dangos eu cefnogaeth am ein cais.
Mwy o gefnogaeth gan Clwb Pêl Droed Cymru i Gais Dinas Diwylliant y DU #Wrecsam2025
Roedd logo ein cais yn defnyddio’r sillafu Cymraeg ‘Wrecsam,’ gyda ‘llwch glo’ yn ymddangos arno fel amnaid i’n hanes diwylliannol a’r lliwiau llachar yn cynrychioli ein cymunedau amrywiol. Fedrwch weld beth arall ddaru fynd ymlaen drwy ddefnyddio’r #nod #Wrecsam2025 ac wrth wylio’r ffilm yma o’r One Show
The race to find the next City of Culture is on! ????????????????????????????????
Tonight @MichAckerley travels to Wrexham to find out if they've got what it takes to win.????#TheOneShow #CityofCulture2025 pic.twitter.com/JcL9RaZ7ll
— BBC The One Show (@BBCTheOneShow) May 23, 2022
Cartref i Bel Droed yng Nghymru: Sefydlwyd tîm pêl droed genedlaethol FAW Cymru mewn cyfarfod yng ngwesty’r Wynnstay yng nghanol dref Wrecsam yn mis Chwefror 1876. Wedi’r dyddiad hyn mae Wrecsam wedi cael cysylltiadau agos gyda FAW Cymru gyda llwyth o’u chwaraewyr yn dod o’n rhanbarth, a sawl chwaraewr yn y garafán bresennol wedi ei eni yn Wrecsam.
O’n sgwad genedlaethol i dimau lleol, pêl droed yw rhywbeth da ni Wrecsamites yn cael angerdd amdani. Mae hyd yn oed ein heddlu lleol yn cael dim! Dyma nhw yn chwarae yn erbyn Bellevue FC (Tîm gwych arall o Wrecsam da ni’n balch iawn ohonynt – gyda sylwebaeth gan orsaf radio lleol Calon FM.
Y gobaith yw y bydd gwelliannau yn y Cae Ras yn golygu y byddwn unwaith eto yn gallu mwynhau pêl-droed rhyngwladol yn Wrecsam, cartref ysbrydol Pêl Droed yng Nghymru. Ni fydd rhan fwyaf o gefnogwyr yn cofio tro diwethaf i Gymru ennill lle yng nghwpan y byd yn ôl yn 1958 (lle ddaru gol o neb heblaw Pele yn gollwng ni o’r gystadleuaeth).
Er hynny mae Cymru wedi ennill lle yn gwpan y byd yn Qatar flwyddyn yma, ac mae hyn wedi dod a balchder ar draws ein sir, a’n cenedl sy’n wyllt ar bel droed!
Mae sawl parth cefnogwyr ar y gweill lle ellir gwylio cwpan y byd yn Wrecsam, a da ni’n meddwl y bydd Wrecsam yn un o’r llefydd gorau yn y byd i wylio Cymru’n chwarae!
Hefyd yn fis medi mae gennym lawer o ddigwyddiadau yn mynd ymlaen i fwynhau yn cynnwys perfformiad yn rhad ac am ddim gan fand yn wreiddiol o Wrecsam The Royston Club…Mwy o fanylion YMA
Da ni’n hoffi troi dŵr i gwrw oer: ‘Tref cwrw’ oedd llysenw Wrecsam am flynyddoedd. Ar un pryd roedd yna 19 o fragdai yn y dre, ac yr un fwyaf hyn oedd Wrexham Lager Beer Company, a fu’n dechrau gweithredu yn 1881. Osodwyd y bragdy hwn i fyny gan ddau fewnfudwr o’r Almaen o’r enw Otto Isler ac Ivan Levinstein. Ddaru’r cwmni cyhoeddi proses o oeri ei chwrw fel y gall ei thywallt yn oer – y dadl yw bod hon oedd y bragdy cyntaf ym Mhrydain i wneud hyn!
Y rheswm gan fod cymaint o gwrw yn cael ei fragu yn Wrecsam oedd bod cyflenwad da o ddwr o dan y dref a oedd yn llawn mwynau. Roedd Wrexham Lager gwreiddiol hyd yn oed ar gael ar y Titanic!
Mae gennym Safle Treftadaeth y Byd UNESCO a gyda’r llysenw “Nant yn yr Awyr”:Disgrifiwyd yr ardal gan UNESCO fel “campwaith o athrylith greadigol.” Uchafbwynt yr 11 milltir o’r safle treftadaeth y byd UNESCO yw’r Dyfrbont Pontcysyllte. Dylunwyd gan y pensaer Thomas Telford, dechreuodd yr adeiladwaith yn 1795, a chwblhawyd y bont yn 1805. Hwyrach fydd rhaid i chi dawelu’ch nerf cyn ei chroesi ar draed, mewn cwch camlas neu mewn canŵ. Gellir ffeindio mwy o wybodaeth yma: https://canalrivertrust.org.uk/places-to-visit/pontcysyllte-aqueduct-world-heritage-site
Da ni’n lwcus i gael sawl adeilad hanesyddol o gwmpas Wrecsam yn cynnwys
Erddig????
Castell y Waun ????
Stiwt ????
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam:
“Mae hyn yn dda iawn i Wrecsam ac yn rhan o stori anhygoel am ddau actor Hollywood a’u heffaith ar gymuned yng Ngogledd Cymru.
“Mae pêl-droed yn rhan allweddol ohonom ni fel pobl, ac i lawer, y clwb yw curiad calon Wrecsam, ac mae yna angerdd a chefnogaeth anhygoel i’r clwb pêl-droed.
“Gobeithiwn y bydd y gyfres yn dda i Wrecsam ac yn helpu i roi’r fwrdeistref sirol ar y map fel rhywle gwych i fyw, gweithio neu ymweld.
“Rydym yn siŵr y bydd pawb yn edrych ymlaen at wylio’r gyfres, a gobeithiwn y bydd yn amlygu ein hanes pêl-droed arbennig, yn ogystal â’r angerdd a’r cymeriad sy’n gwneud Wrecsam yn unigryw. “