Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofiwch – mae’r gwasanaeth gwastraff gardd newydd yn dechrau Medi 5… peidiwch ag anghofio ei adnewyddu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad
Arall
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cofiwch – mae’r gwasanaeth gwastraff gardd newydd yn dechrau Medi 5… peidiwch ag anghofio ei adnewyddu
Y cyngor

Cofiwch – mae’r gwasanaeth gwastraff gardd newydd yn dechrau Medi 5… peidiwch ag anghofio ei adnewyddu

Diweddarwyd diwethaf: 2022/08/23 at 1:46 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Green garden waste bin
RHANNU

Mae gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2022/23 yn dechrau ddydd Llun, Medi 5, felly os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth ond heb ei adnewyddu eto, bydd angen i chi wneud yn fuan fel nad ydych yn colli unrhyw gasgliadau.

Cynnwys
“Cael y gwerth gorau”Atgoffwch eraillTalwch ar-lein ble’n bosiblSticeri newydd ar gyfer 2022/23Dim taliadau arian parod na sieciauNid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

I adnewyddu – neu gofrestru os ydych yn newydd – ewch draw i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd i wneud taliad ar-lein. Dyma’r ffordd gyflymaf a’r hawsaf, a gallwch wneud hynny ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Mae’r gost ar gyfer 2022/23 yn aros yr un fath sef £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, a bydd y gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun, 5 Medi 2022 tan ddydd Gwener, 1 Medi 2023.

Os ydych wedi talu ar gyfer casgliad gwastraff gardd y llynedd (2021/22), bydd eich bin(iau) gwyrdd yn parhau i gael ei gasglu/eu casglu tan 2 Medi.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

“Cael y gwerth gorau”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “I gael y gwerth gorau, mae hi’n bwysig iawn cofrestru’n fuan ar gyfer gwasanaeth 2022/23. Gwyddwn fod rhai preswylwyr yn bwriadu adnewyddu, ond nad ydynt wedi cael cyfle i wneud eto, ac rydym yn eu hannog i wneud cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli unrhyw gasgliadau. Rydym eisiau i bobl gael y gwerth gorau am eu harian ac er mwyn sicrhau hynny, bydd angen iddynt wneud y taliad cyn i’r casgliadau newydd ddechrau ym mis Medi.”

Atgoffwch eraill

Hyd yn oed os ydych eisoes wedi adnewyddu eich bin gwyrdd eich hun, mae’n werth gwirio a ydy eich teulu, eich ffrindiau neu eich cymdogion wedi cofio adnewyddu ar gyfer y casgliad newydd hefyd.

O bosib fod rhai ohonynt wedi anghofio, neu heb sylwi fod angen iddynt adnewyddu eu bin gwyrdd cyn mis Medi, ac mi fyddant yn falch o gael eu hatgoffa.

Talwch ar-lein ble’n bosibl

Y ffordd hawsaf i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Os nad yw’n bosibl i chi dalu ar-lein, gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd (01978 298989) i dalu â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd rhaid i chi aros i wneud hynny. Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod yn talu am y gwasanaeth ar-lein.

Cofiwch – mae’r gwasanaeth gwastraff gardd newydd yn dechrau Medi 5… peidiwch ag anghofio ei adnewyddu

Sticeri newydd ar gyfer 2022/23

Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael pecyn sticer gyda sticer newydd, a ddylid ei arddangos ar gaead eich bin o fis Medi.

Gofynnwn i drigolion i BEIDIO â rhoi eu sticer newydd ar gaead eu bin nes fod y gwasanaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi. Dylech barhau i arddangos eich sticer 2021/22 nes fod y gwasanaeth yn dod i ben ar 2 Medi.

Dim taliadau arian parod na sieciau

Yn y blynyddoedd diwethaf, cawsom nifer o gwsmeriaid a geisiodd dalu am y gwasanaeth drwy anfon arian parod neu sieciau atom. Mae’n rhaid i ni ailadrodd; nid oes modd i ni dderbyn y taliadau hyn.

Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?

Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch chi. Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.

Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro oherwydd, os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.

Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

TALU NAWR

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Librar Ydych chi’n cofio’r pwll plant?
Erthygl nesaf Croeso i Wrecsam – Welcome to Wrexham! #WrexhamFX Croeso i Wrecsam – Welcome to Wrexham! #WrexhamFX

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad
Arall Gorffennaf 7, 2025
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English