Erthyl Gwadd – CThEM
Mae mesurau newydd wedi’u cynnig gan Gyllid a Thollau EM (CThEM) i atal asiantau twyllodrus rhag manteisio ar bobl a phocedu’u had-daliadau treth.
Heddiw lansiodd CThEM ymgynghoriad 12 wythnos “Codi safonau ym maes cyngor treth: Diogelu cwsmeriaid sy’n hawlio ad-daliadau treth” i ystyried ffyrdd i ddiogelu trethdalwyr yn well rhag Asiantau Ad-dalu sy’n gwneud hawliadau treth syml ar ran pobl ond sy’n gallu cymryd hyd at hanner o’r taliad, neu hyd yn oed mwy.
Mae trethdalwyr yn defnyddio Asiantau Ad-dalu i hawlio ad-daliadau treth, ac mae llawer yn hapus gyda’r hwnnw. Ond ar y llaw arall, mae sawl drethdalwr wedi cwyno bod y gost yn aneglur neu hyd yn oed wedi’i chuddio, tra bod cwestiynau am sut mae rhai asiantau yn taro contract â chwsmeriaid.
Mae’r ymgynghoriad yn cynnig amryw o ffyrdd o ddiogelu’r cyhoedd yn well rhag arferion diegwyddor a sicrhau eu bod yn cael yr arian y mae ganddynt hawl iddo, tra hefyd yn gofyn amryw o gwestiynau i ddeall y broblem yn well.
Mae hyn yn cynnwys cael barn pobl ar y canlynol:
- cyfyngu ar ddefnydd aseiniadau, sef pan fo contractau’n trosglwyddo’n gyfreithiol yr hawl i ad-daliad o’r trethdalwr i’r asiant
- cyflwyno mesuriadau gyda’r nod o sicrhau bod trethdalwyr yn gweld gwybodaeth berthnasol am wasanaeth asiant ad-dalu cyn ymrwymo i gytundeb contractiol
- ei gwneud yn ofynnol i asiantau ad-dalu gofrestru gyda CThEM
Mae CThEM yn ymwybodol o nifer o bryderon penodol ynglŷn â’r diwydiant, gan gynnwys codi crocbris am gomisiynu ad-daliadau treth syml. Fodd bynnag, gall trethdalwyr hawlio’n uniongyrchol drwy wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim CThEM ar GOV.UK a chadw 100% o’r ad-daliad eu hunain.
Mae yna hefyd dystiolaeth gref bod llawer o drethdalwyr ddim yn deall telerau eu contract a’u bod yn teimlo eu bod wedi’u camarwain. Mae rhai hyd yn oed yn credu eu bod nhw’n delio’n uniongyrchol â CThEM y hytrach na gyda thrydydd parti.
Mae pryderon eraill yn cynnwys nifer uchel yr hawliadau neu hawliadau heb sail lle nad oes ad-daliad yn ddyledus, gan arwain at oedi gyda hawliadau dilys, yn ogystal â’r defnydd o aseiniadau sy’n golygu bod yr ad-daliad yn mynd i’r Asiant Ad-dalu yn hytrach nag i’r trethdalwr.
Meddai Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid:
“Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod trethdalwyr yn cael eu hawliadau treth yn eu cyfanrwydd – gan roi 100% o’r arian sy’n ddyledus iddyn nhw yn eu pocedi – a ddim yn cael eu twyllo gan arferion diegwyddor rhai Asiantau Ad-dalu.
“Nod yr ymgynghoriad ‘Codi safonau ym maes cyngor treth’ yw cael barn pobl fel y gallwn ddeall yn well a mynd i’r afael â’r problemau er mwyn helpu i godi safonau yn y farchnad cyngor ar dreth. Ry’n ni’n annog pawb dan sylw i ymateb i’r ymgynghoriad a rhannu ei brofiadau.”
Mae gan CThEM ddiddordeb mewn clywed barn pob asiant treth, yn enwedig y rhai sy’n arbenigo mewn helpu trethdalwyr i hawlio ad-daliadau; trethdalwyr sydd wedi hawlio ad-daliadau treth drwy asiantau ad-dalu neu sydd wedi ystyried hynny; y rhai sydd wedi gweld hysbysebion gan asiantau ad-dalu; sefydliadau elusennol; grwpiau defnyddwyr; a chyrff cyfrifeg proffesiynol.
Mae CThEM hefyd yn atgoffa trethdalwyr mai nhw sydd dal y gyfrifol am eu treth eu hunain. Os ydynt yn penodi asiant, dylent wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r ffioedd a thelerau ac amodau’r gwasanaeth, ac i beidio rhannu’u manylion mewngofnodi CThEM gyda’r asiant. Mae CThEM wedi cyhoeddi safonau ar gyfer asiantau a bydd yn cymryd camau yn erbyn yr asiantau sy’n mynd yn groes i’r safonau hyn.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR