Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CThEM yn rhybuddio myfyrwyr rhag sgamiau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > CThEM yn rhybuddio myfyrwyr rhag sgamiau
ArallPobl a lle

CThEM yn rhybuddio myfyrwyr rhag sgamiau

Diweddarwyd diwethaf: Medi 8, 2021 2:31 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
CThEM yn rhybuddio myfyrwyr rhag sgamiau
RHANNU

Erthyl Gwadd – CThEM

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn rhybuddio bod risg uwch y gallai myfyrwyr prifysgol sy’n cymryd swyddi rhan-amser gael eu twyllo gan sgamiau.

Wrth i niferoedd uwch o fyfyrwyr fynd i’r brifysgol eleni, mae hyn yn golygu y gallai mwy o bobl ifanc ddewis ymgymryd â gwaith rhan-amser. Gallai bod yn newydd i ryngweithio â CThEM a bod yn anghyfarwydd â chyswllt gwirioneddol gan yr adran eu gwneud yn agored i sgamiau.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwnaeth bron i 1 miliwn o bobl roi gwybod am sgamiau i CThEM.

Mae bron i hanner yr holl sgamiau treth yn cynnig ad-daliadau treth ffug, nad yw CThEM yn eu cynnig drwy SMS nac e-bost. Mae’r troseddwyr dan sylw fel arfer yn ceisio dwyn arian neu wybodaeth bersonol i’w gwerthu i eraill. Mae CThEM yn frand cyfarwydd y mae sgamwyr yn ei gamddefnyddio i sicrhau bod eu sgamiau’n fwy credadwy.

Gall cysylltiadau neu ffeiliau mewn e-byst neu negeseuon testun hefyd lawrlwytho meddalwedd peryglus ar gyfrifiadur neu ffôn. Gall hyn wedyn gasglu data personol neu gloi peiriant y derbynnydd nes iddo dalu pridwerth.

Rhwng mis Ebrill a mis Mai eleni, gwnaeth pobl ifanc 18 i 24 oed roi gwybod am fwy na 5,000 o sgamiau dros y ffôn i CThEM.

Dywedodd Mike Fell, Pennaeth Gweithrediadau Seiberddiogelwch yn CThEM:

“Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi talu treth o’r blaen, ac felly gallai fod yn hawdd iddynt gael eu twyllo gan negeseuon testun, e-byst neu alwadau ffôn twyllodrus sydd naill ai’n cynnig ‘ad-daliad’ neu’n mynnu bod treth yn cael ei thalu.

“Efallai y bydd myfyrwyr, a fydd wedi cael ychydig neu ddim cyswllt â’r system dreth, yn cael eu twyllo i glicio ar gysylltiadau mewn negeseuon e-byst neu negeseuon testun o’r fath.

“Ein cyngor yw bod yn wyliadwrus pe bai rhywun yn cysylltu’n ddirybudd gan ofyn am arian neu wybodaeth bersonol. Rydym yn clywed am niferoedd uchel o dwyllwyr yn cysylltu â phobl gan honni eu bod yn gweithio i CThEM. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ein cyngor yw peidio ag ymateb yn uniongyrchol i rywbeth amheus, ond yn hytrach i gysylltu â CThEM drwy GOV.UK ar unwaith ac i chwilio ar GOV.UK am ‘HMRC scams’.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Medi 2020 – Awst 2021), mae CThEM wedi:
• ymateb i 998,485 o atgyfeiriadau ynghylch cyswllt amheus gan y cyhoedd. Roedd bron 440,730 o’r rhain yn cynnig ad-daliadau treth ffug
• gweithio gyda’r diwydiant telegyfathrebu a chydag Ofcom i gael gwared ar 2,020 o rifau ffôn a oedd yn cael eu defnyddio i gyflawni sgamiau ffôn cysylltiedig â CThEM
• ymateb i gyfanswm o 413,527 o adroddiadau ynghylch sgamiau dros y ffôn, sy’n gynnydd o 92% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ym mis Ebrill y llynedd, cawsom adroddiadau ynghylch 425 o sgamiau ffôn yn unig. Ym mis Awst 2021, roedd hyn wedi codi i 3,269
• rhoi gwybod am 12,705 o dudalennau gwe maleisus i’w tynnu i lawr
• canfod 463 o sgamiau ariannol cysylltiedig â COVID-19 ers mis Mawrth 2020, a’r rhan fwyaf ohonynt drwy neges destun
• gofyn i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd dynnu 443 o dudalennau gwe sgam cysylltiedig â COVID-19.

Erbyn mis Mehefin eleni, roedd dros 680,000 o fyfyrwyr wedi gwneud cais i’r brifysgol, ac roedd gan dros 900,000 swyddi rhan-amser yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol 20 mph Eich Cyfle i Roi Eich Barn ar gynigion 20 mya Llywodraeth Cymru
Erthygl nesaf Great Big Green Week Byddwch yn rhan o’r Wythnos Fawr Werdd 2021

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English