Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cwblhau ailwampiad y fynwent diolch i’r Loteri Genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Adult holding a child's hand
Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Digwyddiadau Y cyngor
Celf ffenestr cartŵn llachar gan 'PaintedCreations by ME' (Michelle Edwards) ar gyfer arddangosfa 'Seirian versus the Leukamians' yn Nhŷ Pawb, Wrecsam
Arddangosfa Seirian yn Nhŷ Pawb: creadigrwydd dewr trigolyn ifanc Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham bus station - stand 5
Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?
Digwyddiadau Pobl a lle
Jan Picken, Senior MIS Support and Training Officer for Wrexham Council
Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl
Busnes ac addysg
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cwblhau ailwampiad y fynwent diolch i’r Loteri Genedlaethol
ArallY cyngor

Cwblhau ailwampiad y fynwent diolch i’r Loteri Genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: 2018/07/09 at 4:36 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Cwblhau ailwampiad y fynwent diolch i'r Loteri Genedlaethol
RHANNU

Os ydych wedi ymweld â mynwent Wrecsam ar Ffordd Rhiwabon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, byddwch wedi sylwi ar lawer o waith adfer sydd wedi bod yn mynd ymlaen yno.

Cynnwys
“Wedi ei rhestru fel ardal gradd 2”“Tirnod Fictorianaidd bwysig ar gael”“Brosiect enfawr i’r ardal”

Mae’r diolch am hyn i grant o £1.5 miliwn gan gronfa y Loteri Genedlaethol (tryw’r Gronfa Treftadaeth y Loteri) a chafodd ei ddefnyddio i warchod yr adeiladau rhestredig, ailwampio’r ffensio a’r mynedfeydd rhestredig, ac ymchwilio ac arddangos hanes y safle.

Caiff y fynwent ei hystyried fel un o’r enghreifftiau gorau o fynwent Fictorianaidd yng Nghymru gyda thirwedd ‘gardenesque’ sydd wedi ei chadw’n dda, a oedd yn nodweddiadol yn y cyfnod a gafodd ei hadeiladu yn y 1870au â chost o £5,000.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

“Wedi ei rhestru fel ardal gradd 2”

Mae ar y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru ac wedi ei rhestru fel ardal gradd 2. Pan gafodd y cais ei wneud i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, roedd yr adeiladau ymhlith yr ‘adeiladau mewn risg’ ac roedd angen gwaith adfer a gwelliant arnynt.

Darparodd y nawdd gyfle i gwblhau’r gweithiau angenrheidiol, a diolchodd y Cynghorydd David A Bithel, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant chwaraewyr y Loteri pan agorwyd y lle, meddai: “Heb y nawdd hael gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol byddai’r adeiladau hyfryd hyn mewn perygl a byddai hanes y rheiny a gladdwyd yma yn ddirgelwch iddym oll. Hoffwn basio fy niolch i bawb a brynodd tocyn am y Loteri Genedlaethol ac i bawb sy’n rhan o’r prosiect arbennig hwn.”

“Tirnod Fictorianaidd bwysig ar gael”

Malcolm Smith, Heritage Lottery Fund Committee Member, said: “Mae’r prosiect adferiad wedi bod yn un hudol, ac mae’r gwaith ar y fynwent yn ganlyniad o lwyth o waith pwysig dros nifer o flynyddoedd. Ni fasa hyn yn bosib heb i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac ni fasa’r tirnod Fictorianaidd bwysig hon ar gael am gymuned a chenedlaethau’r dyfodol yn Wrecsam. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”

Mae’r gwaith i gyd wedi ei gwblhau erbyn hyn, a dadorchuddiwyd Capel y Dwyrain sydd wedi ei restru fel Gradd 2 gan y Maer yn Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams, mewn seremoni fer yn ddiweddar. Yn dilyn taith o amgylch gweithiau’r ailwampio a’r gadwraeth, dywedodd Y Maer: “Mae wedi bod yn brosiect trawiadol tu hwnt, ac mae’r gwaith wedi ei gwblhau i safon uchel iawn. Dylai pawb fod yn hynod falch o’r gwaith sydd wedi ei gyflawni a’r rhodd y maent wedi ei gadael i’r gymuned.”

Bydd ymrwymiad y gymuned, a oedd yn rhan enfawr wrth wneud cais am nawdd, yn parhau drwy waith y Swyddog Datblygu Mynwentydd i greu cysylltiad cryf â’r gymuned leol.

“Brosiect enfawr i’r ardal”

Dywedodd Aelod Lleol, y Cynghorydd Alun Jenkins: “Mae’r fynwent wedi bod yn brosiect enfawr i’r ardal ac mae pawb sydd wedi bod yn rhan o’r peth wedi dangos ymrwymiad ac angerdd gwirioneddol am y fynwent, ac rwyf yn edrych ymlaen at gael darganfod hyd yn oed mwy am bwy sydd wedi eu claddu yma a’u pwysigrwydd i’r ardal leol. Rydym yn werthfawrogol tu hwnt o’r gefnogaeth frwdfrydig gan y Loteri Genedlaethol a hoffwn ddiolch iddynt oherwydd ni fyddai’r prosiect yma wedi bod yn bosibl oni bai am eu cymorth nhw.”

Mae Martin Howorth, Arweinydd Parciau Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy hefyd wedi diolch i Harrison Design Development, Robin Baylissa Lawray Architects am eu gwaith caled i sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau HLF.

Diolchwyd hefyd i Grosvenor Construction, Flintshire Fabrications a’u contractwyr am ddarparu’r fynwent ar ei newydd wedd a fydd yn para am lawer o flynyddoedd i ddod.

Cwblhau ailwampiad y fynwent diolch i'r Loteri Genedlaethol
Cwblhau ailwampiad y fynwent diolch i'r Loteri Genedlaethol
Cwblhau ailwampiad y fynwent diolch i'r Loteri Genedlaethol
Cwblhau ailwampiad y fynwent diolch i'r Loteri Genedlaethol

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Rhannu
Erthygl flaenorol #GwirioniArDdiwylliant18 #GwirioniArDdiwylliant18
Erthygl nesaf Dyfalwch pwy alwodd heibio ein Bwrdd Gweithredol? Dyfalwch pwy alwodd heibio ein Bwrdd Gweithredol?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Adult holding a child's hand
Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Digwyddiadau Y cyngor Awst 1, 2025
Celf ffenestr cartŵn llachar gan 'PaintedCreations by ME' (Michelle Edwards) ar gyfer arddangosfa 'Seirian versus the Leukamians' yn Nhŷ Pawb, Wrecsam
Arddangosfa Seirian yn Nhŷ Pawb: creadigrwydd dewr trigolyn ifanc Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 1, 2025
Wrexham bus station - stand 5
Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 30, 2025
Jan Picken, Senior MIS Support and Training Officer for Wrexham Council
Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl
Busnes ac addysg Gorffennaf 29, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam

Gorffennaf 25, 2025
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell

Gorffennaf 24, 2025
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lleY cyngor

Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Gorffennaf 23, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English