Mae cwmni lleol wedi rhoi rhodd enfawr o datws i ganolbwynt cymunedol Yellow and Blue (YaB) yn Wrecsam er mwyn helpu i wneud y Nadolig ychydig yn haws i deuluoedd yn y fwrdeistref sirol.
Yn ddiweddar mae Fry Fresh, sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall, Rhiwabon, wedi danfon 5 tunnell o datws mewn bagiau 25kg a fydd yn cael eu dosbarthu drwy’r prosiect Given to Shine sy’n gweithredu yn Wrecsam.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Bydd y tatws hefyd yn cael eu defnyddio gan YaB pan fyddant yn paratoi dros 100 o brydau Nadoligaidd yn rhad ac am ddim ar Noswyl Nadolig.
Dywedodd Phil Robinson, Rheolwr Cyfrifon, “Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o’r drafferth y mae pobl yn ei gael gyda chostau byw ac yn hapus i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.
“Byddwn hefyd yn rhoi unrhyw beth sydd gennym ar ôl ar ein silffoedd cyn y Nadolig i sicrhau nad yw’n mynd yn wastraff.”
Dywedodd Nick Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Fry Fresh, “Mae’n anodd clywed am y trafferthion y mae bobl yn eu profi, yn enwedig wrth i ni nesáu at y Nadolig, ac roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig gwneud rhywbeth i roi cymorth yn uniongyrchol i’r cymunedau. Diolch i Yellow and Blue sy’n gwneud gwaith anhygoel i bobl Wrecsam.”
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Grŵp Costau Byw trawsbleidiol, “Hoffwn ddiolch i Phil Robinson a Fry Fresh a roddodd y rhodd i Yellow and Blue yn gynharach yr wythnos hon – mae’n gynnig hynod hael y gwn y bydd llawer ar draws y fwrdeistref sirol yn ei werthfawrogi.
Meddai Pete Humphries, Sylfaenydd YaB, “Mae’n rhodd hael iawn ac rwy’n gwybod, gyda chymorth Given to Shine, y bydd yn cael ei groesawu gan deuluoedd ar draws y fwrdeistref sirol.”
Bydd gwirfoddolwyr Given to Shine mewn canolfannau cymunedol ar draws Wrecsam ar Noswyl Nadolig a gallwch ddod o hyd i fanylion un sy’n agos atoch chi ar eu tudalen facebook
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI