Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cwmnïau Tai Amlfeddiannaeth wedi derbyn dirwy o £114,000 ar ôl erlyniad llwyddiannus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cwmnïau Tai Amlfeddiannaeth wedi derbyn dirwy o £114,000 ar ôl erlyniad llwyddiannus
Y cyngor

Cwmnïau Tai Amlfeddiannaeth wedi derbyn dirwy o £114,000 ar ôl erlyniad llwyddiannus

Diweddarwyd diwethaf: Medi 21, 2022 5:07 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Magistrates Court Wrexham Law
RHANNU

Mae dau gwmni Tai Amlfeddiannaeth wedi derbyn dirwy sylweddol ar ôl eu cael yn euog o 17 cyhuddiad o fethu â chynnal a chadw a rheoli 3 Tŷ Amlfeddiannaeth trwyddedig. Cyflwynwyd y cyhuddiadau gan dîm Safonau Tai ac Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Wrecsam (rhan o wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd).

Cafodd Pritchard Property (Paragon) Limited, Prichard Property (Lloyds) Limited a Pritchard Accommodation Limited ddirwy o £114,000 ar gyfer y troseddau a chostau o £16,599.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwmnïau, Mr Arran Pritchard, sy’n preswylio yng Ngwlad Thai, ei fod wedi cyflogi rheolwr i edrych ar ôl yr eiddo, ac yr oedd ef wedi methu â chynnal a chadw ac archwilio’r tri eiddo yn ddigonol.

Canfu’r barnwr fod Mr Pritchard, fel unig gyfarwyddwr y tri eiddo, wedi methu â rheoli’r eiddo yn briodol ar sail dydd i ddydd tra’r oedd yn preswylio dramor. Canfu fod methiant systematig i fonitro gwaith cynnal a chadw a goruchwylio staff, gan arwain at eiddo nad oedd yn bodloni safonau derbyniol ac yn cyflwyno perygl o niwed. Roedd yn dibynnu ar ei reolwr rhentu, nad oedd yn gallu goruchwylio ei staff yn ddigonol, ac wedi methu â darparu tystiolaeth o unrhyw archwiliadau a gyflawnwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Mae nifer o landlordiaid ar draws Wrecsam yn gweithredu mewn modd cyfrifol ac yn archwilio a chynnal a chadw eu heiddo yn rheolaidd. Dylai’r erlyniad a’r ddirwy weithredu fel rhwystr i’r landlordiaid hynny sy’n esgeuluso eu dyletswyddau i sicrhau fod tenantiaid yn derbyn eiddo diogel, cynnes sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda.”

Gallwch gysylltu â’r tîm Safonau Tai ac Iechyd yr Amgylchedd drwy anfon e-bost at HealthandHousing@wrexham.gov.uk neu ar 01978 292040 os oes gennych bryderon am y tŷ amlfeddiannaeth rydych yn byw ynddo.”

Rydym yn cadw rhestr o dai amlfeddiannaeth a drwyddedir ar hyn o bryd ar ein gwefan, a hefyd yn darparu gwybodaeth ar beth yw tai amlfeddiannaeth a sut y gallant gael eu trwyddedu.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Parcio am ddim yn Tŷ Pawb y penwythnos hwn
Erthygl nesaf CHWEDLAU’R CRYSAU: CRYS WRTH GRYS – HANES PÊL-DROED CYMRU CHWEDLAU’R CRYSAU: CRYS WRTH GRYS – HANES PÊL-DROED CYMRU

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English