Erlynwyd Glad Investments Ltd yn Llysoedd Ynadon Wrecsam yn ddiweddar; a bu iddynt bledio’n euog i saith trosedd, yn cynnwys gosod tŷ amlfeddiannaeth heb drwydded.
Cyhuddwyd y cwmni o droseddau yn groes i Reoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006, yn cynnwys methu â chadw dihangfa mewn cyflwr da oherwydd drysau tân diffygiol, methu â sicrhau bod yr ardd yn daclus a diogel ac oherwydd ffenestr wedi torri.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Rhoddodd yr Ynadon ddirwyon a’u gorfodi i dalu costau, a oedd yn dod i gyfanswm o £3,174 i’w dalu o fewn 28 diwrnod.
Meddai Toby Zorn, Arweinydd Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai: “Er bod gennym ni lawer o landlordiaid cyfrifol yn Wrecsam, mae yna rai nad ydynt yn cymryd eu cyfrifoldebau cyfreithiol o ddifrif ac felly’n cael eu dwyn i’n sylw a’u herlyn. Mae ymddygiad o’r fath yn anghyfreithlon ac yn diystyru lles a diogelwch y rheiny sy’n byw yn y cartref anniogel, ac nid yw ein swyddogion yn oedi cyn cymryd camau gweithredu.”
Gallwch gysylltu â’r tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai ar HealthandHousing@wrexham.gov.uk neu 01978 292040 os oes gennych chi unrhyw bryder am y tŷ amlfeddiannaeth rydych chi’n byw ynddo.”
Mae gennym ni restr o dai amlfeddiannaeth trwyddedig ar ein gwefan ac rydym ni hefyd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â thai amlfeddiannaeth a sut i’w trwyddedu.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI