Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyflwyno gwobr fawreddog am gymorth gyrfaoedd i ddau fusnes o Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyflwyno gwobr fawreddog am gymorth gyrfaoedd i ddau fusnes o Wrecsam
Arall

Cyflwyno gwobr fawreddog am gymorth gyrfaoedd i ddau fusnes o Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 16, 2022 10:36 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Careers Wales
Careers Wales Awards 2022 Parkgate Hotel 08.11.22 ©Steve Pope Fotowales
RHANNU

Erthyl Gwadd – Gyrfa Cymru

Mae dau fusnes o Wrecsam wedi cael Gwobr Partneriaid Gwerthfawr gan Gyrfa Cymru am eu gwaith i gefnogi pobl ifanc gyda dysgu gyrfaoedd.

Derbyniodd Litegreen a Charles Owen y Busnes Bach Mwyaf Cefnogol a’r Newydd-ddyfodiad Gorau yn y drefn honno gan y cyflwynydd Huw Stephens yn y seremoni wobrwyo fyw nos Fawrth 8 Tachwedd yng Ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Mae’r gwobrau hyn y mae disgwyl mawr amdanynt, yn gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod cyflogwyr sydd wedi darparu profiadau gyrfaol a diddorol i ddisgyblion Cymru dros y 12 mis diwethaf.

Mae Gyrfa Cymru yn gweithio gydag ysgolion a chyflogwyr ledled y wlad i hwyluso gweithgarwch ymgysylltu â chyflogwyr, o ffeiriau gyrfaoedd rhanbarthol effaith uchel i weithgareddau ysgolion unigol, fel bod pobl ifanc yn cael gwybod am fyd gwaith, sectorau blaenoriaeth a’u hopsiynau gyrfa.

Mae arbenigwyr effeithlonrwydd ynni Litegreen wedi cefnogi nifer enfawr o ddisgyblion yn yr ysgol leol, Ysgol y Grango, trwy gyfoeth o weithgareddau, gan gynnwys gweithdy sgiliau cyflogadwyedd, rhwydweithio â chyflogwyr ar garlam, her menter, ffug gyfweliadau a sesiynau i godi ymwybyddiaeth o faterion gwyrdd.

Mae’r cwmni hefyd wedi cefnogi Ysgol y Grango gyda’i gardd anogaeth sy’n darparu cymorth a dysgu effeithiol ar gyfer disgyblion mwyaf bregus yr ysgol. Mae Cyfarwyddwr y Cwmni, David Walker, yn gyn-ddisgybl ac mae wedi rhoi sgwrs i gyn-fyfyrwyr a rhoi cipolwg gwerthfawr ar ei daith gyrfa.

Dywedodd Shanone Towers, cyfarwyddwr yn Litegreen: “Rydyn ni’n falch iawn o ennill y wobr hon – roedd hyd yn oed yr enwebiad yn rhoi boddhad mawr i ni. Pan fydd rhywun arall yn eich enwebu mae’n cael effaith wahanol arnoch chi.

“Rydyn ni’n cymryd hyn i gyd wir o ddifrif. Roeddwn i’n arfer hyfforddi fel athrawes, a phan sefydlon ni Litegreen bum mlynedd yn ôl, roedd ar yr amod y gallwn i gadw cysylltiad â gwaith ieuenctid.”

Dywedodd David: “Wrth eistedd i lawr am brin 10/15 munud gyda’r bobl ifanc a gwneud ffug gyfweliad, neu siarad â nhw, rydych chi’n gallu gweld pytiau bach o sgiliau a rhai o’r pethau y gallwch chi eu tynnu allan ohonyn nhw.

“Rwy’n hoffi meddwl eu bod nhw’n gadael gydag ychydig bach yn fwy o hyder yn eu sgiliau nhw eu hunain a’r pethau y gallan nhw eu gwneud.”

Dywedodd Cynghorydd Ymgysylltu Busnes Gyrfa Cymru, Lesley Lloyd, sy’n gweithio’n agos gyda Litegreen: “Mae Shanone a David, y cyfarwyddwyr yn Litegreen, yn fodel gwych o bartneriaeth ysgol-cyflogwr, ac yn gwmni sy’n buddsoddi ym mywydau a dyfodol pobl ifanc lleol.

Yn ogystal â gweithio gyda’u hysgol bartner, mae Ysgol Y Grango, Litegreen yn rhoi amser a sgiliau i gefnogi nifer o ddigwyddiadau addysg busnes ar draws y sir.”

Mae Charles Owen, gwneuthurwr helmedau marchogaeth o’r radd flaenaf, wedi gweithio gyda llawer o ysgolion yn sir Wrecsam. Mae’r cwmni wedi cefnogi cyfweliadau mentora, diwrnodau menter, sgyrsiau i brentisiaid ac wedi darparu adnodd sgiliau cyfweliad digidol ac ysgrifennu CV i ysgolion.

Maent yn annog eu holl staff i roi o’u hamser a’u medrau i helpu i gefnogi’r prosiect ac maent wedi cofrestru i ddod yn bartner ysgol i gryfhau eu cefnogaeth i ddisgyblion.

Cyflwyno gwobr fawreddog am gymorth gyrfaoedd i ddau fusnes o Wrecsam
Charles Owen

Dywedodd Anna Phillips, Pennaeth Adnoddau Dynol yn Charles Owen: “Rydyn ni’n falch iawn o ennill y wobr – roedden ni wir eisiau estyn allan i’n cymuned a helpu’r genhedlaeth ifanc.

“Fe wnaethon ni fwynhau gwneud y ffug gyfweliadau a’r sgyrsiau prentis yn fawr iawn, ac rydyn ni’n gweithio ar hyn o bryd ar gael pobl ifanc i mewn i’n ffatrïoedd fel y gallan nhw weld mwy drostynt eu hunain.

“Mae mwy o rolau mewn gweithgynhyrchu na rolau yn y ffatri yn unig ac mae’n braf i bobl ifanc weld yr holl gyfleoedd eraill sydd ar gael iddynt.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Gyrfa Cymru.”

Dywedodd Lesley, sydd hefyd yn gweithio gyda Charles Owen: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Charles Owen a gweld pa mor gyflym maen nhw wedi cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion yn ardal Wrecsam.

“Mewn cyfnod byr, maen nhw eisoes wedi cefnogi nifer enfawr o bobl ifanc gyda’u dysgu gyrfaoedd.”

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi Litegreen a Charles Owen fel enillwyr Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr eleni.

“Mae’r gwobrau’n ein galluogi i ddiolch i fusnesau am ysbrydoli, cymell a grymuso disgyblion gyda gwybodaeth a phrofiadau yn ymwneud â gwaith a fydd yn helpu i’w harwain i lunio eu dyfodol.

“Ar fy rhan fy hun a phawb yn Gyrfa Cymru, llongyfarchiadau i’r holl enillwyr ac edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith hanfodol gyda nhw.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Magistrates Court Wrexham Law Cwmni’n derbyn dirwy o thros £3,000 am osod tŷ amlfeddiannaeth heb drwydded
Erthygl nesaf Wrexham Librar Ydych chi erioed wedi gweithio mewn llyfrgell yn Wrecsam?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
The Longest Yarn 2
ArallDigwyddiadau

Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!

Medi 15, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English