Bydd y prosiect cerddorol rhyngwladol o Gymru, Cwmwl Tystion yn ymweld â Tŷ Pawb fel rhan o’i taith o Gymru ar nos Wener 31ain Mai 2024.
Mae’r trwmpedwr Tomos Williams wedi llwyddo, unwaith eto, i ymgynull casgliad rhyfeddol o gerddorion ar gyfer Cwmwl Tystion III / Empathy. O Gymru bydd Mared Williams ac Eadyth Crawford yn canu, ar y gitâr bydd Nguyên Lê o Ffrainc/Vietnam a bydd y cawr Melvin Gibbs, o Efrog Newydd ar y bâs. Bydd Tomos ar y trwmped, a Mark O’Connor ar y dryms ochr yn ochr ag effeithiau gweledol byw gan Simon Proffitt.
Mae Melvin Gibbs a Nguyên Lê yn adnabyddus ledled y byd ac mae’n dipyn o gamp iw denu i Gymru – arwydd o safon a gweledigaeth y prosiect, tra bod Mared ac Eadyth yn cael ei adnabod fel dwy o leisiau ifanc, mwya’ cyffrous Cymru.
Bydd y band yn perfformio cerddoriaeth newydd sy’n cynnwys elfennau o jazz, rock, yr avant-garde a cherddoriaeth werin Gymreig. Mae’r enw ‘Cwmwl Tystion‘ yn deillio o gerdd y bardd Waldo Williams a bydd y gerddoriaeth yn ystyried themâu yn deillio o hanes Cymru a’n hunaniaeth.
Noddir y cyfansoddiad ‘Cyfres Cwmwl Tystion’ gan Dŷ Cerdd, a gwnaethpwyd y daith yn bosibl yn sgil cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ymchwilio i hanes ac hunaniaeth Cymru, i gyfeiliant celf-weledol fyw, bydd Cwmwl Tystion III / Empathy yn cyflwyno noson arloesol o gerddoriaeth gwreiddiol Gymraeg.
“Mae Cwmwl Tystion yn atgyfnerthu enw Tomos Williams fel un o gerddorion mwya arloesol a thalentog Cymru” – Jon Gower, nation.cymru
“Cyffrous, a chwbl Gymraeg…yn cynrychioli Cymru amlhiliol, amlddiwylliannol ac amlhaenog – yr hen a’r newydd yn dod ynghyd” – Sioned Webb, Barn
- Tomos Williams – trwmped / cyfansoddwr
- Mared Williams – llais
- Eady Crawford – llais, effeithiau electroneg
- Nguyên Lê – gitâr trydan
- Melvin Gibbs – bâs
- Mark O’Connor – drymiau
- Simon Proffitt – celfyddyd weledol fyw
Tocynnau: Cwmwl Tystion III / Empathy Tickets, Fri 31/05/2024 at 7:30 pm | Eventbrite
Mynediad Cyffredinol / General Admission £14.00 + £1.87 Fee
Consesiynau/Concessions £11.00 + £1.62 Fee
Cwmwl Tystion III / Empathy Biogs or cerddorion
Tomos Williams – yn drwmpedwr ac yn gyfansoddwr, cysyniad Tomos yw ‘Cwmwl Tystion’. Prosiect sydd yn ail-edrych ar ddigwyddiadau yn hanes a diwylliant Cymru drwy gyfrwng jazz a nifer o ddylanwadau eraill. Mae Tomos yn arwain y bandiau Burum a Khamira, sydd wedi perfformio yn rhyngwladol a’r band 7Steps sydd yn perfformio cerddoriaeth Miles Davis. Roedd yn aelod o’r band traddodiadol ‘fernhill’ am dros bymtheg mlynedd. Mae hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd rhaglen jazz ar BBC Radio Cymru.
Mared Williams – un o leisiau mwya’ poblogaidd ac adnabyddus Cymru, gwnaeth Mared sereni ym mhrif ran y sioe gerdd newydd Gymraeg Branwen:Dadeni y llynedd. Enillodd Mared Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021 am yr albwm, Y Drefn, ac mae’n aelod o’r grŵp Cymry’r West End.
Eadyth Crawford – Yn gantores, cyfansoddwr a chynhyrchydd gerddoriaeth electronig mae Eadyth yn lais newydd, arloesol yng Nghymru. Mae wedi cyd-weithio gyda nifer o artistiaid Cymraeg, ac roedd yn aelod o bennod diwetha’ y prosiect yma ‘Cwmwl Tystion II / Riot!’- mae’i llais yn elfen greiddiol i’r gwaith a’r albym yna. Mae ei threftadaeth Bajan yn bwysig iddi ac mae’n dweud bod ganddi hunaniaeth Gymraeg a Bajan.
Nguyên Lê – gitarydd Byd-enwog sydd wedi bod ar flaen y gâd yn y byd Jazz Ewropeaidd ers y 1990au. Mae wedi ymchwilio i’w wreiddiau o Fietnam ac wedi cyd-weithio â nifer o fawrion y byd jazz: John McLaughlin, Herbie Hancock, Joe Lovano, John Schofield, Kenny Wheeler, Dave Douglas a nifer mwy o gewri. Mae’n ‘virtuoso’ ac yn cael ei ystyried yn feistr ar y byd ‘fusion’ a defnyddio effeithiau electronig ar y gitar.
Melvin Gibbs – “Baswr gorau’r byd” meddai Time Out New York. Mae’n aelod o’r triawd avant-rock ‘Harriet Tubman” ac mae wedi bod yn perfformio yn Efrog Newydd ac yn ryngwladol ers yr 80au. Wedi perfformio â Vernon Read, Sonny Sharrock, Ronald Shannon Jackson, John Zorn, Bill Frisell ac amryw eraill roedd hefyd yn aelod o fand trwm Henry Rollins, y Rollins Band yn y 90au. Roedd yn gyd-sylfaenydd ar y ‘Black Rock Coalition’, ac yn ddiweddar mae wedi bod yn perfformio gyda Arto Lindsay. Yn gawr ar yr offeryn mae’n adnabyddus am yr effeithiau electronig mae’n defnyddio ar y bâs.
Mark O’Connor – un o ddrymwyr prysura’ a mwya creadigol Cymru mae Mark i’w glywed mewn amryw o fandiau a recordiau mewn pob arddull. Mae’n perfformio yn aml gyda Tomos yn Burum, Khamira a 7Steps, a Mark yw’r unig gerddor sydd wedi bod yn rhan o bob band ‘Cwmwl Tystion’. Mae ganddo ddiddordeb byw yng ngherddoriaeth Brazil ac mae’n weithgar gyda’r band cymunedol Wonderbrass.
Simon Proffitt – mae Simon wedi creu delweddau byw ar gyfer pob pennod o ‘Cwmwl Tystion’. Mae’r elfen weledol yn ategu’r gerddoriaeth ac mae’n adio elfen arall, arloesol i’r profiad byw.
Rhowch eich ymatebion i’r arolwg yma. Cymerwch ran rŵan
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Tirluniau syfrdanol Cymru i’w dathlu mewn dwy arddangosfa newydd