Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cwmwl Tystion III / Empathy
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cwmwl Tystion III / Empathy
Y cyngorArall

Cwmwl Tystion III / Empathy

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 18, 2024 11:23 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Empathy
RHANNU

Bydd y prosiect cerddorol rhyngwladol o Gymru, Cwmwl Tystion yn ymweld â  Tŷ Pawb fel rhan o’i taith o Gymru ar nos Wener 31ain Mai 2024.

Mae’r trwmpedwr Tomos Williams wedi llwyddo, unwaith eto, i ymgynull casgliad rhyfeddol o gerddorion ar gyfer Cwmwl Tystion III / Empathy. O Gymru bydd Mared Williams ac Eadyth Crawford yn canu, ar y gitâr bydd Nguyên Lê o Ffrainc/Vietnam a bydd y cawr Melvin Gibbs, o Efrog Newydd ar y bâs. Bydd Tomos ar y trwmped, a Mark O’Connor ar y dryms ochr yn ochr ag effeithiau gweledol byw gan Simon Proffitt.

Mae Melvin Gibbs a Nguyên Lê yn adnabyddus ledled y byd ac mae’n dipyn o gamp iw denu i Gymru – arwydd o safon a gweledigaeth y prosiect, tra bod Mared ac Eadyth yn cael ei adnabod fel dwy o leisiau ifanc, mwya’ cyffrous Cymru.

Bydd y band yn perfformio cerddoriaeth newydd sy’n cynnwys elfennau o jazz, rock, yr avant-garde a cherddoriaeth werin Gymreig. Mae’r enw ‘Cwmwl Tystion‘ yn deillio o gerdd y bardd Waldo Williams a bydd y gerddoriaeth yn ystyried themâu yn deillio o hanes Cymru a’n hunaniaeth.

Noddir y cyfansoddiad ‘Cyfres Cwmwl Tystion’ gan Dŷ Cerdd, a gwnaethpwyd y daith yn bosibl yn sgil cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn ymchwilio i hanes ac hunaniaeth Cymru, i gyfeiliant celf-weledol fyw, bydd Cwmwl Tystion III / Empathy yn cyflwyno noson arloesol o gerddoriaeth gwreiddiol Gymraeg.

“Mae Cwmwl Tystion yn atgyfnerthu enw Tomos Williams fel un o gerddorion mwya arloesol a thalentog Cymru” – Jon Gower, nation.cymru

“Cyffrous, a chwbl Gymraeg…yn cynrychioli Cymru amlhiliol, amlddiwylliannol ac amlhaenog – yr hen a’r newydd yn dod ynghyd” – Sioned Webb, Barn

  • Tomos Williams – trwmped / cyfansoddwr
  • Mared Williams – llais
  • Eady Crawford – llais, effeithiau electroneg
  • Nguyên Lê – gitâr trydan
  • Melvin Gibbs – bâs
  • Mark O’Connor – drymiau
  • Simon Proffitt – celfyddyd weledol fyw

Tocynnau: Cwmwl Tystion III / Empathy Tickets, Fri 31/05/2024 at 7:30 pm | Eventbrite

Mynediad Cyffredinol / General Admission £14.00 + £1.87 Fee

Consesiynau/Concessions £11.00 + £1.62 Fee

Cwmwl Tystion III / Empathy Biogs or cerddorion

Tomos Williams – yn drwmpedwr ac yn gyfansoddwr, cysyniad Tomos yw ‘Cwmwl Tystion’. Prosiect sydd yn ail-edrych ar ddigwyddiadau yn hanes a diwylliant Cymru drwy gyfrwng jazz a nifer o ddylanwadau eraill. Mae Tomos yn arwain y bandiau Burum a Khamira, sydd wedi perfformio yn rhyngwladol a’r band 7Steps sydd yn perfformio cerddoriaeth Miles Davis. Roedd yn aelod o’r band traddodiadol ‘fernhill’ am dros bymtheg mlynedd. Mae hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd rhaglen jazz ar BBC Radio Cymru.

Mared Williams – un o leisiau mwya’ poblogaidd ac adnabyddus Cymru, gwnaeth Mared sereni ym mhrif ran y sioe gerdd newydd Gymraeg Branwen:Dadeni y llynedd. Enillodd Mared Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021 am yr albwm, Y Drefn, ac mae’n aelod o’r grŵp Cymry’r West End.

Eadyth Crawford – Yn gantores, cyfansoddwr a chynhyrchydd gerddoriaeth electronig mae Eadyth yn lais newydd, arloesol yng Nghymru. Mae wedi cyd-weithio gyda nifer o artistiaid Cymraeg, ac roedd yn aelod o bennod diwetha’ y prosiect yma ‘Cwmwl Tystion II / Riot!’- mae’i llais yn elfen greiddiol i’r gwaith a’r albym yna. Mae ei threftadaeth Bajan yn bwysig iddi ac mae’n dweud bod ganddi hunaniaeth Gymraeg a Bajan.

Nguyên Lê – gitarydd Byd-enwog sydd wedi bod ar flaen y gâd yn y byd Jazz Ewropeaidd ers y 1990au. Mae wedi ymchwilio i’w wreiddiau o Fietnam ac wedi cyd-weithio â nifer o fawrion y byd jazz: John McLaughlin, Herbie Hancock, Joe Lovano, John Schofield, Kenny Wheeler, Dave Douglas a nifer mwy o gewri. Mae’n ‘virtuoso’ ac yn cael ei ystyried yn feistr ar y byd ‘fusion’ a defnyddio effeithiau electronig ar y gitar.

Melvin Gibbs – “Baswr gorau’r byd” meddai Time Out New York. Mae’n aelod o’r triawd avant-rock ‘Harriet Tubman” ac mae wedi bod yn perfformio yn Efrog Newydd ac yn ryngwladol ers yr 80au. Wedi perfformio â Vernon Read, Sonny Sharrock, Ronald Shannon Jackson, John Zorn, Bill Frisell ac amryw eraill roedd hefyd yn aelod o fand trwm Henry Rollins, y Rollins Band yn y 90au. Roedd yn gyd-sylfaenydd ar y ‘Black Rock Coalition’, ac yn ddiweddar mae wedi bod yn perfformio gyda Arto Lindsay. Yn gawr ar yr offeryn mae’n adnabyddus am yr effeithiau electronig mae’n defnyddio ar y bâs.

Mark O’Connor – un o ddrymwyr prysura’ a mwya creadigol Cymru mae Mark i’w glywed mewn amryw o fandiau a recordiau mewn pob arddull. Mae’n perfformio yn aml gyda Tomos yn Burum, Khamira a 7Steps, a Mark yw’r unig gerddor sydd wedi bod yn rhan o bob band ‘Cwmwl Tystion’. Mae ganddo ddiddordeb byw yng ngherddoriaeth Brazil ac mae’n weithgar gyda’r band cymunedol Wonderbrass.

Simon Proffitt – mae Simon wedi creu delweddau byw ar gyfer pob pennod o ‘Cwmwl Tystion’.  Mae’r elfen weledol yn ategu’r gerddoriaeth ac mae’n adio elfen arall, arloesol i’r profiad byw.

Rhowch eich ymatebion i’r arolwg yma. Cymerwch ran rŵan

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Tirluniau syfrdanol Cymru i’w dathlu mewn dwy arddangosfa newydd

Rhannu
Erthygl flaenorol New parking spaces Gwelliannau Amgylcheddol a Strydoedd Gorlawn
Erthygl nesaf Creative Industries Bydd buddsoddiad gwerth sawl miliwn yn troi Hen Lyfrgell Wrecsam mewn i bwerdy diwydiannau creadigol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English