Ar 11 Mawrth, bydd cŵn synhwyro ar waith ar Sgwâr y Frenhines pan fydd ASH Cymru a Dim Smygu Wrecsam yn ymuno i siarad am roi’r gorau i ysmygu ac i dynnu sylw at risgiau tybaco anghyfreithlon.
Mae pawb yn gwybod bod ysmygu yn drwg i’n hiechyd a’i fod yn arferiad drud. Ond ydych chi hefyd yn ymwybodol o’r peryglon y gall tybaco anghyfreithiol eu hachosi?
Mae gwerthiant tybaco anghyfreithlon yn cyfrif am 15% o’r holl werthiannau tybaco yng Nghymru a chaiff 45% o hynny ei werthu mewn tafarndai a chlybiau. Yn anffodus, caiff ei werthu’n rhad iawn gan ei gwneud hi’n haws i blant ei brynu gyda’u harian poced.
Hefyd, mae gan lawer o’r rhai sy’n smyglo sigaréts anghyfreithlon i’r wlad gysylltiadau â mathau eraill o droseddau cyfundrefnol. Felly os ydych chi’n prynu sigaréts anghyfreithlon, fe allech chi fod yn helpu i ariannu’r gweithgareddau troseddol hynny.
Bydd y Sioe Deithiol Tybaco Anghyfreithlon ar Sgwâr y Frenhines ar 11 Mawrth.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN