Dydi gadael y lluoedd arfog ac ymuno â bywyd bob dydd ddim bob amser yn hawdd. A dweud y gwir, mae’n un o’r newidiadau anoddaf mewn bywyd pan fydd trefn a sicrwydd yn cael eu disodli gan amwysedd a phethau na ellir eu rhagweld.
Fe allech chi ddefnyddio’r disgrifiad hwnnw ar gyfer adael gwaith llawn amser i sefydlu eich busnes eich hun. Felly mae Hwb Menter Wrecsam wedi cyfuno’r ddwy elfen i ffurfio ffordd glir o symud ymlaen.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Mae “Veterans into Business” yn rhaglen naw wythnos o hyd sydd yn cynnwys pynciau hanfodol sydd eu hangen i sefydlu eich busnes eich hun megis strwythurau cyfreithiol, cynlluniau busnes, codi arian a chyfryngau cymdeithasol.
Caiff ei gynnal ar ddydd Sadwrn er mwyn i gyn filwyr mewn gwaith allu achub ar y cyfle.
Mae llefydd yn brin felly i ddysgu mwy, cysylltwch â’r trefnwyr at businesssupport@gov.wales neu byddwch yn ddewr a sicrhewch eich lle rŵan.
Mae’r sesiwn gyntaf ar 1 Mehefin am 10am a daw’r cwrs i ben ar 27 Gorffennaf.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae’r trefnwyr wedi cael syniad gwych ar gyfer y rhai sydd yn gadael y fyddin er mwyn iddynt ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i fentro i fyd busnes gan eu bod bellach yn gyn filwyr. Mae’n syniad gwych a dwi’n gobeithio y bydd nifer o gyn filwyr yn manteisio ar y cwrs gwych yma sydd am ddim.”
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU