Erthygl wadd: Gweithdy Dinbych a Thîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru
Os hoffech fod yn fwy hyderus i gyfathrebu yn Saesneg ar gyfer cyfweliadau am swyddi yna dyma’r cwrs i chi. Wrth gwrs, byddwn yn canolbwyntio arnoch CHI, yr unigolyn a sut rydych yn eich cyflwyno eich hun i ddarpar gyflogwyr.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Mae Gweithdy Dinbych yn cynnig gweithdai ar-lein sydd wedi eu hariannu’n llawn i gefnogi unigolion, sy’n siarad Pwyleg fel iaith gyntaf, er mwyn iddynt adnabod a goresgyn y rhwystrau i ddod o hyd i waith. Byddwn yn helpu i gynyddu eich ymwybyddiaeth a’ch dealltwriaeth o’r sgiliau sydd eu hangen mewn cyfweliad i sicrhau swydd.
Dros bedair sesiwn wythnosol byddwn yn meithrin eich hyder mewn sgiliau cyfweliad, yn edrych ar beth ddylech ei wneud a beth na ddylech ei wneud mewn cyfweliad, ac yn canolbwyntio ar eich cyflwyniad personol er mwyn ‘llwyddo yn y cyfweliad’.
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno ar-lein felly bydd y cyfranogwyr angen ffon, gliniadur neu Gyfrifiadur Personol gyda chamera a microffon a WIFI da.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch thedenbighworkshop@gmail.com neu am gefnogaeth i gael mynediad at y cwrs hwn e-bostiwch onewrexham@wrexham.gov.uk
CANFOD Y FFEITHIAU