Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cwsmeriaid tafarn yn Wrecsam yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cwsmeriaid tafarn yn Wrecsam yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws
ArallPobl a lle

Cwsmeriaid tafarn yn Wrecsam yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws

Diweddarwyd diwethaf: Awst 21, 2020 4:19 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Pint of beer
RHANNU

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Wrecsam yn cynghori unrhyw un a ymwelodd â thafarn North and South Wales Bank yn Wrecsam rhwng 9 a 20 Awst i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws.

Os bydd cwsmeriaid yn datblygu symptomau, waeth pa mor ysgafn, dylent hunanynysu ar unwaith a gwneud cais am brawf Coronafeirws drwy fynd i www.llyw.cymru/coronafeirws, neu drwy ffonio’r gwasanaeth ffôn cenedlaethol 119.

Mae’r cyngor yn dilyn nodi tri achos a gadarnhawyd ymhlith staff yn y dafarn. Nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd o drosglwyddo i gwsmeriaid, ac nid oes achos wedi’i ddatgan.

Cysylltir ag unrhyw un sy’n bodloni’r diffiniad o gyswllt uniongyrchol â’r staff yr effeithir arnynt fel rhan arferol o’r broses ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu, ac mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus fel mesur rhagofalus.

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam i ymchwilio i dri achos o’r Coronafeirws ymhlith staff yn nhafarn North and South Wales Bank yn Wrecsam.

“Nid oes tystiolaeth o drosglwyddo i gwsmeriaid ar hyn o bryd, ond rydym yn cynghori unrhyw un a ymwelodd â’r dafarn rhwng 9 a 20 Awst i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws a threfnu prawf ar unwaith os bydd symptomau’n digwydd.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS.

“Mae nodi’r achosion hyn yn dystiolaeth bod y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio, ac nid oes achos wedi’i ddatgan.

“Wrth i ni symud drwy gam adfer pandemig y Coronafeirws, rydym yn disgwyl gweld clystyrau mewn gwahanol leoliadau. Rydym yn rheoli unrhyw glystyrau o’r Coronafeirws yn briodol, gan gynnwys drwy roi cyngor ynghylch atal a rheoli heintiau, a thrwy gynorthwyo’r broses o olrhain cysylltiadau lle y bo angen.

“Rydym yn atgoffa’r cyhoedd a pherchnogion busnes bod Coronafeirws yn dal i gylchredeg yn y gymuned. Mae gan bob un ohonom ran hanfodol i’w chwarae wrth atal Coronafeirws rhag lledaenu drwy ddilyn canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol – sef aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill – a golchi dwylo’n rheolaidd.”

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”]YMGEISIWCH RŴAN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol market traders Yn cyflwyno ein masnachwyr marchnad diweddaraf yn Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Gas barbecue Oes gennych chi botel nwy y gallwch ei ail-lenwi ar gyfer eich barbeciw?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English