Ar ddechrau’r flwyddyn roedd yn fraint a hanner cael ein cydnabod yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2024 yng Nghaerdydd am ein defnydd o ddyfeisiau Gweithgareddau Therapi Hel Atgofion Rhyngweithiol (RITA) i gefnogi pobl gyda dementia.
Cynhaliwyd y seremoni ar ddydd Iau, 25 Ebrill yng ngwesty Mercure Cardiff Holland House gyda chynrychiolwyr o Gyngor Wrecsam a My Improvement Network yn bresennol.
Er ein bod wedi colli allan ar y wobr, cafodd ein gwaith o gydweithio gyda My Improvement Network ei ganmol yn fawr a’r ffaith ein bod ‘ni’n gweithio i egwyddorion arferion yn seiliedig ar gryfderau’. Dyma ni’n cael ein canmol am y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn Wrecsam i sicrhau bod yr unigolyn sy’n derbyn gofal yn rhan flaenllaw o’r ddarpariaeth trwy ddefnyddio RITA fel galluogwr digidol.
Beth yw’r ddyfais RITA?
Mae’n dod ar ffurf sgrîn cyffwrdd neu lechen hawdd ei ddefnyddio i roi adloniant a therapi i helpu cleifion i gofio a rhannu pethau o’u gorffennol yn defnyddio cerddoriaeth a gwylio adroddiadau newyddion o ddigwyddiadau hanesyddol. Mae nodweddion eraill yn cynnwys ffilmiau, carioci a chwarae gemau.
Gellir creu ffeil bersonol gyda holl anghenion yr unigolyn a’r hyn y mae’n ei hoffi – fel ei hoff gerddoriaeth a ffilmiau. Mae hyn yn creu ffordd fwy personol ac effeithiol i ofalu am yr unigolyn hwnnw yn unol â’i ofynion meddygol a’i ddiddordebau personol, a allai fod yn ffactor ymlaciol i leihau pryder a straen.
Cyflwynwyd dyfeisiau RITA i ddechrau mewn 20 o’n cartrefi gofal ym Mawrth 2021. Ym mis Ebrill 2022 cyflwynwyd rhagor o ddyfeisiau RITA i 13 cartref gofal arall gan gynnwys fersiwn i gefnogi preswylwyr sy’n methu dod allan o’u gwlâu.
Llynedd lansiwyd ein menter i hyrwyddo’r defnydd o RITA Synergy sy’n galluogi cartrefi gofal i allforio proffiliau personol o ddyfeisiau RITA i ddonglau RITA Synergy Mae’n gallu darparu parhad gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn trwy’r llwybr i’r ysbyty, yn ystod cyfnod yn yr ysbyty, ac wrth ddod allan o’r ysbyty.
Beic Google Dementia
Yn ddiweddar rydym wedi bod yn treialu’r defnydd o feic Google Dementia a gafodd ei roi i ni gan Ddigidol Cymru. Mae’r beic yn defnyddio sgrin fawr sy’n galluogi defnyddwyr i deithio o gwmpas gwahanol ardaloedd dros y we sy’n teimlo fel eu bod nhw’n beicio go iawn.
Mae’r beic wedi cael ei ddefnyddio yn y Ganolfan Les ac wedi annog y bobl sydd wedi cymryd rhan i arwain ar sgyrsiau drwy drafod gwahanol ddiddordebau.
Beicio, pysgota, teithio ar gwch camlas, siopau sglodion, gwyliau lan y môr, hoff ddiodydd, a hoff brydau bwyd oedd rhai o’r pynciau a drafodwyd yn un o’r sesiynau.
Buddion eraill a welwyd oedd yr effeithiau corfforol o ddefnyddio’r coesau a gorfod canolbwyntio am gyfnod hir o amser.
“Dangos ein hymroddiad i gefnogi pobl gyda dementia”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym yn gefnogwyr mawr o ddefnyddio galluogwyr digidol fel dyfeisiau RITA i helpu gwella iechyd a lles teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. Rydym wedi gweld cymaint o fuddion gwahanol ac mae’n helpu teuluoedd a’u gofalwyr i gyfathrebu’n well gyda’r unigolyn. Mae derbyn canmoliaeth fawr gan Wobrau Gofal Cymdeithasol Cymru yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi pobl gyda dementia.”
Defnyddio cefnogaeth ddigidol i gefnogi dementia
Gall sgiliau digidol a chymorth yn y gymuned wella iechyd a lles teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. Edrychwch ar y wefan ganlynol i ddysgu mwy am sut i ddefnyddio dyfeisiau digidol er mwyn helpu pobl gyda dementia gwefan Good Things Foundation.