Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!
Arall

Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 29, 2024 1:13 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!
RHANNU

Mae data twristiaeth blynyddol 2023 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Wrecsam wedi profi ei berfformiad blynyddol cryfaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2023, gyda bron i 20% o dwf o un flwyddyn i’r llall o ran gwariant ymwelwyr.

Mae Data STEAM blynyddol (y mae ardaloedd Awdurdodau Lleol ledled y DU yn eu defnyddio’n aml i fesur perfformiad twristiaeth) yn dangos bod adfywiad Wrecsam ers y pandemig yn parhau i dyfu ar gyflymder da, ac mae gwerth twristiaeth i Wrecsam wedi cynyddu 18.2% o 2022 i £179.4 miliwn heddiw.  Mae hyn hefyd yn adlewyrchu twf anferth o 82% yn y ddegawd ddiwethaf – y mwyaf yng Nghymru – sy’n dangos datblygiad y Sir fel cyrchfan gystadleuol ar gyfer hamdden a busnes. 

Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!

Delwedd uchod: Ymwelodd 25 o weithredwyr teithiau o’r UDA / Canada â Wrecsam ym mis Chwefror wrth i deithiau grŵp o dramor i Wrecsam ddod yn fwy poblogaidd!

Tyfodd cyfanswm nifer yr ymwelwyr 6.6% yn 2023, gydag ychydig dros ddwy filiwn yn ymweld â’r Sir y llynedd. Bu cynnydd o 8.1% yn nifer yr ymwelwyr undydd, ond dim ond 1.3% o dwf oedd yn nifer yr arosiadau dros nos. Mae hynny, o bosibl, yn adlewyrchu’r angen am lety ychwanegol o ansawdd uchel.

Teimlir y buddion ar lawr gwlad hefyd. Mae 1,758 o swyddi cyfwerth â llawn amser yn cael eu cynnal gan dwristiaeth – twf o 2.9% – er bod y sector yn dal i gael trafferth denu gweithwyr i’r sector, neu i’w weld yn gyfle gyrfaol dichonadwy.

Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!

Delwedd: Canol Dinas Wrecsam (Dyma Wrecsam).

Wrth siarad am y canlyniadau, dywedodd Sam Regan, Cadeirydd Partneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam a pherchennog bwyty ac ystafelloedd The Lemon Tree:

“Rydym ni, fel cyrchfan, wrth ein boddau gweld ffigyrau mor dda.  Rydym yn bendant wedi gweld cynnydd mawr ar lawr gwlad yn niferoedd yr ymwelwyd rhyngwladol i Wrecsam yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae effaith hynny wedi ei theimlo drwy weithredwyr – yn arbennig yng Nghanol y Ddinas.  Yr hyn sy’n allweddol i ni ’rŵan fel partneriaeth dwristiaeth yw ceisio cynnwys Wrecsam ar fwy o amserlenni teithiau gyda phartneriaid, sicrhau cyllid ar gyfer mwy o welliannau i brofiadau ymwelwyr, targedu’r farchnad y tu allan i’r tymor, penwythnosau pan nad oes gemau, a chynyddu masnach yng nghanol yr wythnos i bawb.  Fodd bynnag, mae gweld twristiaeth yn Wrecsam ar lwybr esgynnol yn newyddion gwych i bawb yn y sector!”

Canmolwyd gwytnwch busnesau lletygarwch lleol gan y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a diolchodd iddynt am eu gwaith yn tyfu’r sector:

“Mae canlyniadau diweddaraf perfformiad twristiaeth yn brawf o waith caled ac ymrwymiad ein busnesau lletygarwch a’u gwytnwch i gael ail wynt yn dilyn y pandemig.

Yn naturiol, mae Wrecsam wedi cael mwy o fudd o ymwelwyr tramor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, diolch i’r sylw a roddwyd i’r ddinas gan y rhaglen ddogfen. 

O’m profiad i o fod yn siarad ag ymwelwyr a newyddiadurwyr teithio, yr atynfa i Wrecsam i lawer ohonynt yw cael gweld y Cae Ras – cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam – ond pan fônt yn cyrraedd, maent yn sylweddoli gwlad mor brydferth ydy hon rydym yn byw ynddi ar ôl ymweld ag ardaloedd fel Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte (sy’n 11 milltir o hyd), Erddig a Chastell y Waun.

Rwyf hefyd yn falch o weld datblygiad Wrecsam fel cyrchfan i ymwelwyr, gyda buddsoddiad newydd yng nghanol ein dinas, digwyddiadau mawrion yn cael eu cynnal, ein cynllun llysgenhadon ochr yn ochr â buddsoddiad preifat ac entrepreneuriaeth.  Mae rhywfaint o hyn yn mynd i’r afael â phrinder llety dros nos, ac mae cynlluniau cyffrous ar gyfer ailwampio gwestai presennol a gwestai newydd yng nghanol y ddinas yn yr arfaeth, a fydd yn cadw mwy o wariant twristiaeth yn Wrecsam.

Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar y sylfeini hyn i sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad cyffredinol gorau posibl a sicrhau y rhoddir Wrecsam yn glir ar y map fel lle i ymweld ag o.”

Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!

Delwedd uchod: Mae mwy na 300 o fyfyrwyr, staff lletygarwch ac aelodau o’r cyhoedd wedi dod yn Llysgenhadon Twristiaeth swyddogol ar gyfer Wrecsam yn y 12 mis diwethaf.

Ar ôl gwylio twf Wrecsam fel cyrchfan dwristiaeth ryngwladol, dywedodd yr ymgynghorydd lletygarwch a pherchennog newydd Hotel Wrexham, Steven Hesketh:

“Fel gweithredwr amlsafle ledled y Gogledd-orllewin, yr oedd yn amlwg y dylem ehangu i ogledd Cymru ac, yn arbennig, i Wrecsam o ystyried yr ystadegau presennol. Rydym yn buddsoddi’n seiliedig ar yr hyn rydym yn ei weld yn digwydd a’r teimlad sydd gennym fel cwmni, a phrofir hydwythedd Wrecsam yn uniongyrchol gan lawer. Rydym mor falch o gaffael Hotel Wrexham (Holt Lodge, gynt) a’n buddsoddiad yn y gwesty fflatiau newydd, The Registry, ar Stryt Caer.  Mae aelodau’r tîm a minnau’n gweld dyfodol disglair i Wrecsam, gan ystyried ein buddsoddiadau ni, y newidiadau ardderchog yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam, y buddsoddiad o’r sector preifat ar yr Ystad Ddiwydiannol, y Brifysgol yn ehangu, a’r buddsoddiad ehangach sy’n dod drwy’r llywodraeth hefyd. Mae dyfodol Wrecsam yn hynod gyffrous!”

*Mae Data STEAM yn acronym ar gyfer Scarborough Tourism Economic Assessment Model, sef model a ddefnyddir gan 21 o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, sy’n cael data ymwelwyr blynyddol gan letyau ac atyniadau lleol, ynghyd ag arolygon porth teithwyr cenedlaethol a wneir mewn meysydd awyr, gorsafoedd rheilffordd a chyfweliadau gydag ymwelwyr ledled Cymru.

**Mae cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam yn gyfres o fodiwlau ar-lein, sy’n rhad ac am ddim, y gellir eu gwneud yn eich amser eich hun yma: https://www.ambassador.wales/cy/ambassador-courses/wrexham-ambassador-course/  

Rhannu
Erthygl flaenorol Summer Reading Challenge Newyddion Llyfrgelloedd: Byddwch yn Llyfrgellydd am ddiwrnod!
Erthygl nesaf RITA Project Team highly commended by Cydnabod y defnydd o ddyfeisiau RITA i gefnogi’r rheiny sy’n byw gyda dementia

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English