Nawr, yn fwy nag erioed mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio i gyflawni’r gwaith, a chadw ein cymunedau yn ddiogel. Mae’r timau o fewn y Gwasanaethau Tai yng Nghyngor Wrecsam wir wedi cydweithio yn ystod y pandemig i sicrhau fod ein tenantiaid a’n cleientiaid sy’n edrych am dai yn Wrecsam, wedi cael y gefnogaeth maent ei hangen ac i gadw ein gwasanaethau hanfodol i fynd.
Yn Ebrill 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddeb i bob awdurdod lleol yng Nghymru i sicrhau bod pawb oedd yn ddigartref ac yn cysgu ar y stryd yn cael llety.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Sefydlwyd y Prosiect Prifysgol Glyndŵr a darparwyd llety dros dro i 58 o gleientiaid yn ardal Wrecsam ac roedd yn llwyddiant mawr. Bu i’r cyfleuster hwn ganiatáu i ni ddarparu lle diogel i’r rhai yn ein cymunedau oedd ei angen yn ystod y pandemig.
Bu i staff ar draws y cyngor wirfoddoli i gefnogi’r prosiect, gan reoli’r cyfleuster o ddydd i ddydd. Bu i ni weithio gyda sefydliadau partner hefyd, i sicrhau llwyddiant y prosiect gan gynnwys, The Wallich a ddarparodd wasanaethau golchi dillad a bocsys cyfnewid nodwyddau diogel, bu i Cais ddarparu swyddogion cefnogi allgymorth ar safle a bwyd poeth gyda’r nos, bu i Fyddin yr Iachawdwriaeth ddarparu bwyd poeth ar gyfer brecwast hwyr, Tîm Lleihau Niwed wedi darparu cyngor ar gyffuriau a chefnogaeth feddygol a meddygfa Hillcrest wedi cynnal sesiwn galw heibio bob dydd Gwener gydag ymarferydd nyrsio. Hefyd, cafwyd rhoddion gan Tesco a’r eglwys leol yn rheolaidd a werthfawrogwyd yn fawr. Heb gefnogaeth eraill yn y gymuned, ni fyddem wedi gallu ei wneud mor llwyddiannus ag y bu. Yn sicr bu i hyn helpu i gyflawni cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru i ddarparu llety i bawb oedd yn ddigartref ac yn cysgu ar y stryd yn ystod y pandemig.
Cawsom gymaint o gardiau diolch a geiriau o werthfawrogiad, mae’n wych gweld fod y prosiect wedi helpu pobl, nid dim ond i gael llety yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond hefyd gydag agweddau eraill ar fywyd. Roedd dynes wedi cysylltu â ni ar ôl dianc rhag trais domestig a digartrefedd a chafodd ei rhoi yn Glyndŵr. Ar ôl gweithio gyda swyddogion a sefydliadau partner oedd yn rhan o’r prosiect, mae’r ddynes hon wedi cael tenantiaeth yn y sector preifat, wedi defnyddio’r gefnogaeth a gynigiwyd iddi a bellach yn gweithio’n llawn amser ar ôl peidio â gweithio am nifer o flynyddoedd!
Dywedodd y Cyng. David Griffiths – Aelod Arweiniol ar gyfer Tai “Rwy’n falch iawn o’r holl dimau oedd yn rhan o wneud i hyn ddigwydd. Mae meddwl yn arloesol a gwaith caled gan ein timau tai a sefydliadau partner wedi golygu ein bod wedi gallu darparu llety addas i bobl ddigartref yn ein cymunedau, gwaith gwych gan bawb!”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.