Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Lle ydyn ni arni bellach?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Lle ydyn ni arni bellach?
ArallPobl a lleY cyngor

Cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Lle ydyn ni arni bellach?

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 14, 2018 2:10 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Lle ydyn ni arni bellach?
RHANNU

Roedd rhaid i ni weithio’n galed yn 2005 er mwyn gwneud yn siŵr bod ein hadeiladau, ein siopau, ein ysgolion a’n lleoliadau busnes yn hygyrch i bobl anabl. Roedd hyn o ganlyniad i’r Ddeddf Gwahaniaethu Ar Sail Anabledd a ddaeth i rym ac a ddylai fod wedi gwneud bywyd ychydig yn haws i bobl anabl.

Cynnwys
  • “Mynediad Cadeiriau Olwyn”
  • “Codwyd ymwybyddiaeth staff”
  • “Mae pethau’n gwella”

Ydy hynny wedi gweithio? Wel, bu’r Ymgyrchydd Hawliau Anabledd Damian Plant o Landudno ar ymweliad â Wrecsam yn ddiweddar, ac wedi’r ymweliad fe gysylltodd â’r Maer, y Cynghorydd John Pritchard, gyda’i ganfyddiadau ac ymddengys ein bod yn gwneud yn iawn.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

“Mynediad Cadeiriau Olwyn”

Un o’r llefydd cyntaf y bu i Damian geisio mynd i mewn iddo oedd Wetherspoon ar y Stryt Fawr. Ar y dechrau roedd yn ymddangos y byddai’r grisiau i’r bar yn broblem o ran mynediad i gadeiriau olwyn. Ar ymweliad pellach gyda’r Maer, dangoswyd bod modd cael mynediad i gadeiriau olwyn gan fod ramp cludadwy ar gael, a chloch i holi am gymorth. Nododd staff bod ganddynt ap ar-lein a gwasanaeth bwrdd er mwyn peidio gorfod ciwio wrth y bar.

Dywedodd llefarydd ar ran Wetherspoon, Eddie Gershon: “Rydym am i’n tafarndai fod ar agor ac yn hygyrch i bawb. Rydym yn falch o’r ffaith bod ein tafarndai yn cynnig adnoddau gwych i bobl sydd ag anableddau, a’i bod yn hawdd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn gael mynediad iddynt.”

Cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Lle ydyn ni arni bellach?

“Codwyd ymwybyddiaeth staff”

Gall lifftiau weithiau achosi problemau i ddefnyddwyr anabl ac roedd bocsys yn rhwystro mynediad yn Nôl yr Eryrod. Wedi galwad sydyn i reolwr Dôl yr Eryrod, Kevin Critchley, datryswyd hynny ac roedd staff yn fwy na bodlon i sicrhau bod y bocsys yn cael eu symud, a chodwyd ymwybyddiaeth staff.

Dywedodd y Maer, y Cynghorydd John Pritchard: “Mae’n dda gwybod ein bod yma yn Wrecsam ar y trywydd iawn o ran gwneud bywyd yn haws i’n hymwelwyr anabl sy’n dod i ganol y dref. Nid yw’n berffaith, a dangosodd ymweliad diweddar Damian pa mor hawdd yw datrys pethau a sicrhau mynediad haws. Allwn ni byth gydymffurfio 100% oherwydd natur deddfwriaeth adeiladau rhestredig ond gallwn geisio goresgyn rhwystrau pan fyddant yn cael eu dangos i ni.”

“Mae pethau’n gwella”

Meddai Damian ar ôl ei ymweliad: “Roedd yn dda gweld sut mae pethau yn gwella i bobl anabl ac mae Wrecsam wedi gwneud yn dda iawn. Fodd bynnag mae llawer o lefydd sy’n amhosib neu’n anodd i bobl anabl eu cyrraedd a byddaf yn parhau i weithio drwy’r ardal er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r problemau rydym yn eu hwynebu yn ddyddiol. Rwy’n hefyd yn ddiolchgar i’r Maer am yr amser â gymrodd i gyfarfod gydag i, a hefyd am ei bryder diffuant dros y problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd. Diolch hefyd i’r staff â gwnaethpwyd hyn yn bosib.”

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i ddarganfod mwy am gynllun tai Gofal Ychwanegol newydd Wrecsam yr wythnos hon .... Dewch i ddarganfod mwy am gynllun tai Gofal Ychwanegol newydd Wrecsam yr wythnos hon ….
Erthygl nesaf Dylai grwpiau chwaraeon fachu’r cyfle am arian ychwanegol Dylai grwpiau chwaraeon fachu’r cyfle am arian ychwanegol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English