Yn ddiweddar cynhaliodd Partneriaeth Rheilffordd Caer a’r Amwythig eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyfarfod Partneriaeth drwy fideo gynadledda.
Cafodd y Cynghorydd David A Bithell o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ei ail-ethol fel Cadeirydd y Bartneriaeth a chafodd Jackie Allen, cynrychiolydd Teithio Hafren-Dyfrdwy ei hail-ethol fel Is-gadeirydd.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod y Bartneriaeth yn falch o allu parhau gyda phrosiectau a gytunwyd yn gynharach yn y flwyddyn a bod y Cynllun Busnes diwygiedig newydd ar gyfer 2020-2025 a’r gyllideb wedi cael eu cytuno.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
“Byddwn yn ceisio darparu amrywiaeth o fentrau, ond o bwysigrwydd penodol mae astudiaeth i ganfod beth mae’r cymunedau sydd ar y llwybr ei angen gan y rheilffordd yn y blynyddoedd i ddod.
Aeth ymlaen i ddweud ‘Mae’r pandemig yn dod a newidiadau mawr i fywydau pawb. Wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y rheilffordd, rhaid edrych ar ba fuddion all y rheilffordd ei gynnig i’r cymunedau a beth mae’r cymunedau ei angen gan y rheilffordd.
Rhaid i ni sefydlu sut allwn ni gynorthwyo cymunedau gyda dewisiadau teithio iachach a mwy cynaliadwy, er mwyn integreiddio teithio, hybu symudedd a sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb’.
‘Mae’r llinell yn gwasanaethu nifer o gymunedau gwahanol sydd â rhesymau gwahanol dros deithio, sydd angen i ni ei ddeall. Mae nifer angen teithio tu hwnt i linell y rheilffordd a’n nod yw gweithio’n agosach gydag asiantaethau eraill i ehangu’r buddion. Dylai’r cydweithrediadau hyn hefyd edrych ar ehangu buddion economaidd a gwella profiad i deithwyr’.
‘Nod yr astudiaeth yw canfod a blaenoriaethu’r anghenion hynny a dod ag asiantaethau a’u gwaith ynghyd mewn un ddogfen er mwyn cynorthwyo cynllunio ar gyfer y dyfodol’.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG