Mae’r blog hwn yn un o nifer o straeon y byddwn yn eu postio trwy gydol Wythnos Gwaith Ieuenctid 2019.
Mae gwaith ieuenctid cymunedol yn rhoi ymdeimlad o ryddid a sicrwydd i bobl ifanc, ac yn eu galluogi i gyfarfod, gwneud ffrindiau, mynegi eu hunain a chael profiadau newydd y tu hwnt i’r ysgol.
Yn ei dro, mae hyn yn helpu pobl ifanc drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd a’r nod ydi cynyddu eu hymdeimlad o falchder yn eu cymunedau lleol.
Fel rheol, mae gwaith ieuenctid yn digwydd ar ffurf clwb ieuenctid. Gall pobl ifanc alw draw i gymdeithasu â ffrindiau, chwarae gemau, gwyliau ffilmiau neu gymryd rhan mewn gweithgareddau megis crefftau.
Mae’r tîm ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, ond mae gwaith ieuenctid yn y gymuned yn canolbwyntio ar rai yn eu harddegau. Ar hyn o bryd, Mae Tîm Chwarae a Chymorth Ieuenctid Wrecsam yn darparu gwaith ieuenctid mewn amryw o gymunedau lleol, gan gynnwys:
Brymbo, Tan-y-fron, Bwlch-gwyn, Mwynglawdd, Coed-poeth, Llai, Rhiwabon a Rhosllannerchrugog. . Mewn rhai cymunedau, mae’r gwaith hwn yn cael ei ariannu gan y Cyngor Cymuned fel rhan o’u hymrwymiad a’u cefnogaeth barhaus i’w cymuned leol a’r bobl ifanc.
Dysgwch fwy am glybiau ieuenctid yn Wrecsam yma: http://youngwrexham.co.uk/info/clubs-and-projects/
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at youthservice@wrexham.gov.uk neu ewch i wrecsamifanc.co.uk. neu fel arall, ffoniwch 01978 317952 ac fe gewch eich cyfeirio at yr adran briodol.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN