… os ydych chi’n gwybod beth ydi gweddill y gân, fe wyddoch chi beth sydd o’ch blaenau!

Bydd Cyfeillion Parc Gwledig Dyffryn Moss a Thŷ Cymunedol Broughton yn cynnal picnic tedi bêr ym Mharc Gwledig Dyffryn Moss (o Ffordd Poolmouth) rhwng 1.30pm a 3.30pm ddydd Sul 7 Gorffennaf.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Bydd digonedd o weithgareddau ar thema tedi bêr yn cael eu cynnal trwy gydol y diwrnod, gan gynnwys llwybr tedi bêr; cystadleuaeth enwi’r tedi bêr; raffl; diodydd poeth a theisennau.

Cofiwch ddod â phicnic gyda chi a rhywbeth cyfforddus i eistedd arno – a chofiwch ddod â’ch tedi bêr eich hun!

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Tŷ Cymunedol Broughton ar 01978 756650, neu anfonwch e-bost i communityhouse@hotmail.co.uk

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

COFRESTRWCH FI RŴAN