Fel rhan o fuddsoddi miliynau ym Marchnad y Cigyddion, mae cyfle i sicrhau tenantiaeth ar gyfer bwyty neu gaffi yn yr adeilad wedi dod ar gael.
Gyda mynedfa ei hun ar y Stryd Fawr mae’r safle wedi’i rannu ar draws 3 llawr, gyda 3 ystafell islawr, mynedfa ar y llawr gwaelod, bwyty â chegin, toiled, swyddfa a chyfleusterau storio yn gysylltiedig. Mae lifft yn gwasanaethu’r lloriau i gyd.
Mae’r adnewyddiad wedi creu lleoliad bywiog, modern, gyda chymysgedd o ddyluniadau a chynllun traddodiadol a chyfoes sy’n gwneud y gorau o’r gofod.
Ar ran Cyngor Wrecsam, mae Forge Property Consultants ac Emanuel Oliver yn cynnig y cyfle i osod y gofod hwn. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â admin@forgeproperty.co.uk
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams “Fe wnaethon ni lwyddo i sicrhau £4 miliwn o bunnoedd o gyllid allanol i adfywio’r Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion. “Mae cwblhau’r gwaith ar y rhan hon o adeilad y farchnad yn nodi camau olaf y prosiect hwn. “Rydym nawr yn chwilio am denant addas i feddiannu’r gofod hwn a dod yn rhan o’n sector lletygarwch bywiog yng nghanol y ddinas.”








