Cyfle i gael dweud eich dweud ar y materion pwysig yng Nghymru

Beth Rogers
1 Min Read

Beth sydd ei angen i wneud Cymru yn llwyddiannus yn y dyfodol?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynllun defnydd tir newydd am 20 mlynedd – Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Bydd y cynllun yn edrych ar y materion pwysig megis ynni, economi, cludiant a’r amgylchedd.

Mae Llyfrgell Wrecsam yn cynnal sesiwn galw heibio, a bydd yn gyfle i chi wrando a chael dweud eich dweud am ddatblygiad cynllun defnydd tir newydd 20 mlynedd ar gyfer Cymru.

Bydd y cynllun yn edrych ar y materion pwysig megis ynni, economi, cludiant a’r amgylchedd.

 

Dewch draw i ddysgu mwy a dewch i rannu eich meddyliau a syniadau am ddyfodol Cymru. Bydd yn cael ei gynnal yng nghyntedd Llyfrgell Wrecsam ddydd Llun 11 Mehefin rhwng 1pm a 6pm.  Nid oes angen archebu lle.

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Share This Article