Hebryngwr cludiant ysgol wrth gefn £23,656 pro rata (£11.59 yr awr)
A yw unrhyw un o’r rhain yn swnio fel chi?
- Ydych chi’n Gynorthwyydd Addysgu ac yn dymuno ennill ychydig yn fwy AC yn cael lifft i’r ysgol ac yn ôl?
- Neiniau a theidiau, oes gennych chi amser sbâr i helpu disgyblion i’w lleoliadau ysgol ac yn ôl?
- Wedi ymddeol yn ddiweddar/yn ddi-waith ac yn ansicr beth i’w wneud gyda’ch amser?
- Ydych chi’n gobeithio gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac yn dymuno magu rhywfaint o brofiad?
Mae gan Gyngor Wrecsam amrywiaeth eang o deithiau ysgol sydd angen hebryngwr i hebrwng plant o’u cartref i’r ysgol. Rydyn ni’n edrych ar ble rydych chi’n byw, eich ymrwymiadau, ac yn cyfateb y rhain â’r plant sydd angen cymorth.
Ydy hyn yn swnio fel rhywbeth y gallech chi ei wneud? Darganfyddwch fwy ar dudalen swyddi gwag Cyngor Wrecsam.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.